Meilyr Brydydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
'''Meilyr Brydydd''' yw'r cynharaf o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] (fl. [[1081]]-[[1137]]). Mae'n bosibl ei fod yn frodor o [[Trefeilyr|Drefeilyr]], [[Môn]]. Fe'i cofir am ei ganu i [[Gruffudd ap Cynan]].<ref name="Gwaith Meilyr Brydydd a 1994">''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).</ref>
 
==Bywgraffiad==
Roedd Meilyr yn dad i'r bardd [[Gwalchmai ap Meilyr]] ac yn daid i'r beirdd [[Meilyr ap Gwalchmai]], [[Einion ap Gwalchmai]] ac, yn ôl pob tebyg, i [[Elidir Sais]]. Yn ôl ach teuluol a geir yn y testun ''Hen Lwythau Gwynedd a'r Mars'' dan y teitl ''Llwyth Aelan'' enw gwraig Meilyr Brydydd oedd Tandreg ferch Rhys ap Seisyllt. Yn ôl yr un ddogfen tad Meilyr oedd Mabon ap Iarddur ap Mor ap Tegerin ap Aeddan, ac roedd yr Aeddan hwnnw yn ei dro yn un o ddisgynyddion [[Cunedda Wledig]], sefydlwr teulu brenhinol [[teyrnas Gwynedd|Gwynedd]]. Roedd Meilyr yn perthyn i deulu barddol felly; teulu breintiedig ac iddo ach hir ac anrhydeddus.<ref>'' name="Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).<"/ref>
 
Ceir llecyn o'r enw Trefeilyr ym mhlwyf [[Trefdraeth (Môn)|Trefdraeth]] ym Môn, ac er na fedrwn fod yn gwbl sicr mai Meilyr Brydydd oedd deiliad y tir, mae'r ffaith fod yna hefyd [[Trewalchmai|Drewalchmai]] (pentref [[Gwalchmai]] heddiw) a bod cofnodion o'r [[14eg ganrif]] yn nodi daliadau tir eraill yn enwau meibion ei fab Gwalchmai ap Meilyr yn awgrymu'n gryf fod Meilyr yn berchen arno ac efallai wedi ei eni yno.<ref>'' name="Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).<"/ref>
 
==Cerddi==
Llinell 12:
:Arfodd faedd feiddiad angad weiniawg,
:Yn llys Aberffraw, er ffaw ffodiawg,
:Bûm o du gwledig yn lleithigawg.<ref name="ReferenceA">''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994). Orgraff ddiweddar.</ref>
 
Mae'r ail gerdd yn adnabyddus iawn dan yr enw ''Marwysgafn Meilyr Brydydd'', y [[Marwysgafn|farwysgafn]] gynharaf a gadwyd i ni. Math o gerdd gyffes ydyw. Mae'r bardd yn cyffesu ei bechodau ac yn gofyn maddeuant a lle ym [[Paradwys|Mharadwys]]. Ar ddiwedd y gerdd mae'n gofyn i [[Iesu Grist|Grist]] ei gadw rhag tân [[uffern]] ac i'r [[Duw]] a'i creodd ei adael i orffwys ymhlith beddau'r saint ar [[Ynys Enlli]]:
Llinell 19:
:Rhag uffern affan, wahan westi:
:Creawdr a'm crewys a'm cynnwys i
:Ymhlith plwyf gwirin gwerin Enlli.<ref>''Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994). Orgraff ddiweddar.<name="ReferenceA"/ref>
 
Priodolir testun arall i Feilyr, sef cerdd ddarogan sy'n ymwneud â [[brwydr Mynydd Carn]] (1081), ond nid oes sicrwydd mai Meilyr a'i canodd.<ref>'' name="Gwaith Meilyr Brydydd a'i Ddisgynyddion'' (Caerdydd, 1994).<"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 44:
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
 
{{Authority control}}