Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Morris Kyffin"

Lleihawyd o 180 beit ,  6 blynedd yn ôl
Awdurdod
(ehangu)
(Awdurdod)
 
==Bywgraffiad==
Ganwyd Morris Kyffin tua 1555 yn rhywle yng nghylch [[Croesoswallt]], [[Swydd Amwythig]], ar adeg pan fu'n ardal Gymraeg o hyd. Dyma ardal y beirdd Cymraeg [[Rhys Cain]] a [[Wiliam Llŷn]] a daeth Morris yn ddisgybl barddol i'r olaf. Un o hen dylwythau uchelwrol [[Powys]] oedd ei deulu.<ref name="J. Gruffydd, 1925">W. J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560'' (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,</ref>
 
Aeth yn ifanc i [[Llundain|Lundain]]. Yn 1578 roedd yn athro yn nheulu'r Arglwydd Buckhurst. Cafodd addysg yn yr ieithoedd [[Groeg]] a [[Lladin]], ond ni wyddom ble. Gwasanaethodd fel trysorydd a swyddau eraill gyda'r fyddin am gyfnod. Bu farw yn [[Iwerddon]] yn 1598 a chafodd ei gladdu yn Eglwys Crist yn [[Dulyn|Nulyn]].<ref>W. name="J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560'' (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,<"/ref>
 
==Gwaith llenyddol==
Yn Llundain daeth i adnabod rhai o lenyddion mawr yr oes, fel [[Edmund Spenser]], [[William Camden]] a'r Cymro [[David Powel]]. Cyfieithodd un o ddramau [[Terens]] o'r Lladin i Saesneg (1588). Ceir penillion annerch i Morris gan y Dr [[William Morgan]], cyfieithydd y [[Beibl]], ac mae'n bur debygol felly eu bod yn adnabod eu gilydd.<ref>W. name="J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560'' (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,<"/ref>
 
Fe'i cofir yn bennaf heddiw fel awdur ''Deffyniad Ffydd Eglwys Lloegr'' a orffenwyd ganddo yn 1594 ac sy'n gyfieithiad rhydd neu addasiad o waith Saesneg gwreiddiol.<ref>W. name="J. Gruffydd, ''Llenyddiaeth Cymru[:] Rhyddiaith o 1540 hyd 1560'' (Wrecsam, 1925), tt. 85-88,<"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
[[Categori:Milwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Swydd Amwythig]]
 
{{Authority control}}
420,642

golygiad