Phylip Brydydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Un o [[Beirdd y Tywysogion|Feirdd y Tywysogion]] a ganai yng [[Teyrnas Gwynedd|Ngwynedd]] a [[Teyrnas Deheubarth|Deheubarth]] yn hanner cyntaf y [[13eg ganrif]] oedd '''Phylip Brydydd''' (fl. [[1222]]). Roedd yn frodor o [[Ceredigion|Geredigion]].<ref name="ReferenceA">Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Phylip Brydydd'.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Ni wyddys dim am y bardd ar wahân i dystiolaeth ei gerddi a chyfeiriad tebygol ato mewn cerdd ddiweddarach gan [[Gwilym Ddu]] sy'n ei gysylltu â Cheredigion. Er nad oes sicrwydd am hynny, mae'n bosibl mai ef yw'r Phylip ab Ifor ap Cydifor ap Gwaithfoed a geir yn achau Deheubarth ac a gysylltir â [[Llanbadarn Odwyn]], [[Pennardd]], yng Ngheredigion. Mae ei enw yn dangos ei fod yn [[Prydydd|brydydd]] yng nghyfundrefn y beirdd.<ref>Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Phylip Brydydd'.<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cerddi==
Cedwir ar glawr yn y llawysgrifau bedair o gerddi mawl gan y bardd i [[Rhys Gryg]], mab [[Yr Arglwydd Rhys]] o Ddeheubarth, [[Rhys ap Gruffudd ap Rhys|Rhys Ieuanc]] (nai Rhys Gryg), ac i'r Tywysog [[Llywelyn ap Iorwerth]] ([[Llywelyn Fawr]]) o Wynedd. Yn ogystal ceir dwy gerdd [[ymryson barddol|ymryson]] arbennig sy bron yn unigryw yng ngwaith y [[Gogynfeirdd]] ac sy'n cynnig golwg gwerthfawr ar y Traddodiad Barddol yn [[Oes y Tywysogion]].<ref>Morfydd E. Owen (gol.), 'Gwaith Phylip Brydydd'.<name="ReferenceA"/ref>
 
== Llyfryddiaeth ==
Llinell 22:
[[Categori:Marwolaethau'r 13eg ganrif]]
[[Categori:Pobl o Geredigion]]
 
{{Authority control}}