Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
VolkovBot (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
'''Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918''' oedd yr etholiad cyntaf i'w gynnal ar ôl [[Deddf Cynrychioli'r Bobl 1918]], ac felly yr etholiad cyntaf yn y [[Deyrnas Unedig]] y gallai merched bleidleisio ynddo. Cynhaliwyd yr etholiad ar [[14 Rhagfyr]] [[1918]], er na ddechreuodd y cyfrif hyd [[28 Rhagfyr]]. Enillwyd yr etholiad gan glymblaid rhwng y [[Plaid Ryddfrydol|Blaid Ryddfrydol]] dan [[David Lloyd George]] a'r [[Plaid Geidwadol|Blaid Geidwadol]] dan [[Andrew Bonar Law]]. Roedd rhai elfennau o'r Blaid Geidwadol a'r Blaid Ryddfrydol yn gwrthwynebu'r glymblaid, ond ni fuont yn llwyddiannus iawn. Roedd y canlyniad yn golygu fod Lloyd George yn parhau fel Prif Weinidog. Cafodd y [[Plaid Lafur|Blaid Lafur]] lawer mwy o bleidleisiau nag o'r blaen, ond ni fu llawer o gynnydd yn nifer y seddau a enillwyd ganddynt.
 
Yn [[Iwerddon]], collodd y [[Plaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] bron y cyfan o'u seddau i [[Sinn Féin]] dan [[Éamon de Valera]]. Ystyrir yr etholiad yma yn allweddol yn [[hanes Iwerddon]], gan arwain at y rhyfel am annibyniaeth a ffurfio [[Gweriniaeth Iwerddon]] yn [[1922]]. Un o ymgeiswyr llwyddiannus Sinn Féin oedd y ferch gyntaf i'w hethol i Dŷ'r Cyffredin, sef [[Constance Georgine, Cowntes Markiewicz]]. Yn unol aâ pholisi Sinn Féin, gwrthododd gymeryd ei sedd.