Anarawd ap Rhodri: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
'''Anarawd ap Rhodri''' (bu farw [[916]]), oedd brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] rhwng 878 a 916.
 
==Bywgraffiad==
Yr oedd tad Anarawd, [[Rhodri Mawr]] wedi dod yn frenin y rhan fwyaf o Gymru erbyn diwedd ei oes, ond pan fu farw yn [[878]] rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion. Etifeddodd Anarawd orsedd Gwynedd. Cofnodir i Anarawd a'i frodyr Cadell a Merfyn gydweithredu'n glos yn erbyn brenhinoedd llai Cymru. Ymosododd yr Iarll Aethelred o Fercia ar Wynedd yn [[881]], ond llwyddodd Anarawd i ennill buddugoliaeth waedlyd dosto mewn brwydr ger ceg Afon Conwy ([[Brwydr Dial Duw]]), a glodforir gan y croniclydd fel "Dial Duw am Rodri", gan fod Rhodri wedi ei ladd mewn brwydr yn erbyn y Mersiaid.<ref name="John Edward Lloyd 1911">John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest''(Longmans, Green & Co).</ref>
 
Gwnaeth Anarawd gytundeb a brenin Danaidd [[Efrog]] i geisio gwarchod rhag ymosodiadau eraill gan Mercia. Pan brofodd y cytundeb yma'n anfoddhaol, daeth i gytundeb ag [[Alffred Fawr]] o Wessex, gan ymweld a llys Alffred. Yn gyfnewid am amddiffyniad Alffred, derbyniodd Anarawd flaenoriaeth Alffred. Dyma'r tro cyntaf i frenin Gwynedd dderbyn blaenoriaeth brenin Seisnig, a daeth yn gynsail i'r goron Seisnig hawlio gwarogaeth o hynny ymlaen.<ref> name="John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest''(Longmans, Green & Co).<"/ref>
 
Yn [[894]] gallodd Anarawd amddiffyn ei deyrnas rhag ymosodiad gan lu Danaidd ar Ogledd Cymru, a'r flwyddyn ddilynol ymosododd ar [[Ceredigion|Geredigion]] ac Ystrad Tywi yn y de. Adroddir fod ganddo filwyr Saesnig yn ei fyddin ar gyfer yr ymosodiadau hyn. Yn [[902]] cafodd fuddugoliaeth arall pan ymosodwyd ar [[Ynys Môn]] gan rai o Ddaniaid [[Dulyn]] dan arweiniad Ingimund. Bu farw Anarawd yn [[916]] a dilynwyd ef gan ei fab [[Idwal Foel]].<ref> name="John Edward Lloyd (1911) ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest''(Longmans, Green & Co).<"/ref>
 
== Cyfeiriadau ==
Llinell 27:
[[Categori:Marwolaethau 916]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
 
{{Authority control}}