Hanes Cernyw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
iaith
Llinell 9:
Erbyn [[1066]] ystyrid Cernyw yn rhan o Deyrnas Lloegr, ond roedd ganddi rywfaint o annibynniaeth yn parhau fel is-deyrnas. Diorseddwyd brenin olaf Cernyw, [[Cadoc, brenin Cernyw|Cadoc]], gan y Normaniaid. Datblygodd llenyddiaeth boblogaidd Gernyweg yn y [[14eg ganrif]]. Cyn cyfnod y Tuduriaid byddid yn aml yn nodi bod cyfreithiau'n weithredol ''in Anglia et Cornubia''; ond o gyfnod y Tuduriaid ymlaen cymerwyd fod "Anglia" yn cynnwys Cernyw.
 
Bu gwrthryfel yn [[1497]], gan ddechrau ymhlith y mwynwyr tun, oedd yn gwrthwynebu cynnydd yn y trethi. Gorymdeithiodd y gwrthryfelwyr tua [[Llundain]], ond gorchfygwyd hwy ym mrwydr Pont Deptford. Bu gwrthryfel arall yn erbyn y [[Llyfr Gweddi]] Protestannaidd yn [[1549]]. Heblaw fod mwyafrif y Cernywiaid yn Gatholigion ar y pryd, roedd y Llyfr Gweddi newydd yn [[Saesneg]], iaith nad oedd mwyafrif y Cernywiaid ar y pryd yn ei deall. Dywedir i ugain y cant o boblogaeth Cernyw gael ei lladd yn y gwrthryfel yma, un o'r ffactorau a arweiniodd at ddirywiad yn sefyllfa'r iaith. Bu farw [[Dolly Pentreath]], siaradwr olaf y Gernyweg yn ôl y chwedl yn [[1777]], ond mae tystiolaeth i siaradwyr eraill fyw tan ddechrau'r [[19eg ganrif]].
 
Yn [[1755]] tarawyd arfordir Cernyw gan [[tsunami]] a achoswyd gan ddaeargryn mawr [[Lisbon]]. Parhaodd mwynfeydd tun Cernyw yn bwysif yn y [[18fed ganrif]], ond erbyn ail hanner y [[19eg ganrif]] roedd y tun yn dechrau darfod, ac ymfudodd llawer o Gernywiaid. Tua diwedd y [[18fed ganrif]] tyfodd [[Methodistiaeth]] yn gyflym yng Nghernyw yn dilyn ymweliadau gan [[John Wesley|John]] a [[Charles Wesley]].