Antigonos I Monophthalmos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 38 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q200401 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Antigone le Borgne (pièce).jpg|thumb|Darn arian gyda delw Antigonus I]]
 
Cadfridog [[Macedon]]aidd dan [[Alecsander Fawr]] ac ddiweddarach sylfaenydd brenhinllin yr Antigoniaid oedd '''Antigonos I Monophthalmos''' ([[Hen Roeg]]: {{Hen Roeg|Ἀντίγονος ὁ Μονόφθαλμος neu Μονοφθαλμός}}, "Antigonos yr Unllygeidiog") ([[382 CC]] - [[301 CC]]). Roedd yn fab i [[Philip (mab Machatas)|Philip]] o [[Elimiotis|Elimeia]]. Apwyntiwyd ef yn rhaglaw [[Phrygia]] Fwyaf yn [[333 CC]], ac wedi marwolaeth Alecsander yn [[323 CC]], derbyniodd [[Pamphylia]] a [[Lycia]] gan [[Perdiccas]], oedd yng ngofal yr ymerodraeth. Daeth Perdiccas yn elyn iddo pan wrthododd gynorthwyo [[Eumenes]] i feddiannu'r rhannau o'r ymerodraeth oedd wedi eu rhoi iddo ef, a bu raid i Antigonos a'i fab [[Demetrius I Poliorcetes|Demetrius]] ffoi i [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]], lle'r enilodd ffafr Antipater, rheolwr Macedonia.
 
Cymerodd ran amlwg yn y brwydro rhwng y [[Diadochi]], olynwyr Alecsander, a ddilynodd, ac enillodd ddwy frwydr fawr yn erbyn Eumenes, yn Paraitacene yn [[317 CC]] a Gabiene yn [[316 CC]]. Llwyddodd i gipio trysorau [[Susa]] a meddiannodd [[Babylon]], gan orfodi [[Seleucus I Nicator]] i ffoi. Wedi llawer o frwydro, gwnaed heddwch yn [[311 CC]], gydag Antigonos yn cael rheolaeth ar Asia Leiaf a Syria, ond yn fuan bu ymladd eto.
 
Llwyddodd Demetrius i orchfygu llynges [[Ptolemi I Soter]] ym [[Brwydr Salamis (306 CC)|Mrwydr Salamis]] ger arfordir [[Cyprus]] yn [[306 CC]], gan gipio'r ynys. Cyhoeddodd Antigonos ei hun yn frenin, gan wneud Demetrius yn gyd-frenin. Ymosododd ar yr Aifft, ond llwyddiodd Ptolemi i amddiffyn y ffîn yn ei erbyn.
 
Gorchfygwyd Antigonos a Demetrius gan fyddinoedd unedig Seleucus a Lysimachus ym [[Brwydr Ipsus|Mrwydr Ipsus]] yn [[301 CC]]. Lladdwyd Antigonos, oedd yn 80 oed, yn y frwydr, a rhannwyd ei deyrnas rhwng Lysimachus a Seleucus. Llwyddodd Demetrius i'w wneud ei hun yn frenin Macedonia yn ddiweddarach.
Llinell 11:
[[Categori:Genedigaethau 382 CC]]
[[Categori:Marwolaethau 301 CC]]
 
{{Authority control}}