Antiochus III Mawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Awdurdod
Llinell 3:
Chweched brenin yr [[Ymerodraeth Seleucaidd]] oedd '''Antiochus III Mawr''', '''{{Hen Roeg|Μέγας Ἀντίoχoς}}''', (tua [[241 CC|241]] - [[187 CC]]).
 
Pan etifeddodd Antiochus III yr ymerodraeth roedd wedi colli tiriogaethau [[Anatolia|Asia Leiaf]], [[Bactria]] a [[Parthia]], ac yn fuan wedi iddo ddod yn frenin gwrthryfelodd y [[Mediaid]].
 
Yn [[221 CC]] bu Antiochus yn ymgyrchu yn y dwyrain, lle gallodd ail-feddiannu Media. Mewn ymgyrchoedd yn [[219 CC]] a [[218 CC]] cyrhaedddodd ffiniau [[Yr Hen Aifft|yr Aifft]], ond yn [[217 CC]] gorchfygwyd ef gan [[Ptolemi IV, brenin yr Aifft]] ym Mrwydr Raphia, a bu raid iddo encilio. Yn [[216 CC]] gorchfygodd Achaeus, oedd wedi gwrthryfela yn Asia Leiaf. Yn [[212 CC]] gorfododd [[Xerxes, brenin Armenia]] i'w gydnabod fel uwch-frenin, ac yn [[209 CC]] ymosododd ar [[Parthia]], dan orfodi [[Arsaces II, brenin Parthia|Arsaces II]] i ofyn am gytundeb heddwch.
Yr un flwyddyn, bu'n ymgyrchu yn [[Bactria]], cyn croesi yr [[Hindu Kush]] i ddyffryn [[Kabul]].
 
Yn ddiweddarch bu'n ymladd yn erbyn yr Aifft eto, ac wedi ennill buddugoliaeth ym Mrwydr Panium yn [[198 CC]] cymerodd feddiant ar [[Judea]] oddi wrth yr Aifft. Dechreuodd ymgyrch yn Asia Leiaf, a ddaeth ag ef i wrthdrawiad a [[Gweriniaeth Rhufain]], a gwaethygodd y berthynas pan ddaeth y cadfridog Carthaginaidd [[Hannibal]] i lys Antiochus fel cynghorydd milwrol.
 
Yn [[192 CC]] ymosododd Antiochus ar [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]], ac etholwyd ef yn brif gadfridog [[Cynghrair Aetolia]]. Fodd bynnag gorchfygwyd ef gan y Rhufeiniaid ym [[Brwydr Thermopylae (191 CC)|Mrwydr Thermopylae]] yn [[191 CC]], a bu raid iddo encilio i Asia.
Llinell 20:
[[Categori:Marwolaethau 187 CC]]
[[Categori:Yr Ymerodraeth Seleucaidd]]
 
{{Authority control}}