Arthur Griffith: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 19 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q342765 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
'''Arthur Griffith''' ([[Gwyddeleg]]: Art Ó Gríobhtha; [[31 Mawrth]], [[1871]] - [[12 Awst]], [[1922]]) oedd sylfaenydd ac arweinydd cyntaf [[Sinn Féin]]. Roedd yn Arlywydd [[Dáil Éireann]] o Ionawr hyd Awst, ac yn bennaeth y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig a arweiniodd at annibyniaeth Iwerddon yn [[1921]].
 
Ganed Griffith yn [[Dulyn|Nulyn]], o dras Cymreig. Bu'n gweithio fel argraffydd am gyfnod cyn ymuno a'r [[Cynghrair Gaeleg]] oedd yn anelu at adfer yr iaith Wyddeleg. Daeth yn aelod o'r ''[[Irish Republican Brotherhood]]'' (IRB). Bu yn Ne Affica am gyfnod, ac wedi dychwelyd i Ddulyn roedd yn o'r rhai a sefydlodd y papur wythnosol ''[[United Irishman]]'', Yn 1910, priododd ei wraig, Maud; cawsant fab a merch.
 
Erbyn hyn roedd Griffith yn feirniadol iawn o'r [[Y Blaid Seneddol Wyddelig|Blaid Seneddol Wyddelig]] a'i thacteg o gydweithio a'r Blaid Ryddfrydol Brydeinig. Yn 1900, sefydlodd [[Cumann na nGaedhael]] ac yn 1903 gyngor cenedlaethol i wrthwynebu ymweliad y brenin Edward VII o Loegr ag Iwerddon. Yn 1905, ymunodd hwn a chyrff eraill i ffurfio Cynghrair [[Sinn Féin]] ("Ni'n hunain"). Roedd yn ceisio cyfuno agweddau ar bolisiau [[Charles Stewart Parnell]] gyda'r traddodiad mwy milwriaethus. Polisi Sinn Féin oedd y byddai unrhyw aelodau a etholid i'r senedd yn Llundain yn gwrthod cymeryd eu seddau.
 
Yn dilyn [[Gwrthryfel y Pasg]] bu cynnydd mawr yn y gefnogaeth i Sinn Féin. Etholwyd Griffith yn aelod seneddol dros Ddwyrain [[Cavan]] mewn is-etholiad yng nghanol 1918, ac yn yr [[Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 1918|etholiad cyffredinol]] ddiwedd y flwyddyn enillodd Sinn Féin fwyafrif mawr o seddau Iwerddon. Gwrthodasant fynd i'r senedd, gan sefydlu senedd Wyddelig [[Dáil Éireann (1919-1922)|Dáil Éireann]]. Dilynwyd hyn gan [[Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon|Ryfel Annibyniaeth Iwerddon]] yn erbyn y fyddin Brydeinig. Carcharwyd Griffith am gyfnod yn 1921.
 
Ym mis Hydref 1921, gofynodd yr Arlywydd [[Éamon de Valera]] iddo fod yn arweinydd y tîm Gwyddelig yn y trafodaethau gyda'r Llywodraeth Brydeinig. Ar ôl llawer o fargeinio daethpwyd i gytundeb cyn diwedd y flwyddyn; cyfaddawd o ran mai statws dominiwn oedd yn cael ei gynnig yn hytrach na gweriniaeth. Ymddiswyddodd de Valera mewn protest, a daeth Griffith yn Arlywydd, gyda [[Michael Collins]] yn bennaeth y llywodraeth. Erbyn hyn roedd iechyd Griffith yn dirywio, a bu farw ar [[12 Awst]], [[1922]], yn 50 oed. Claddwyd ef ym [[Mynwent Glasnevin]].
Llinell 18:
[[Categori:Genedigaethau 1871]]
[[Categori:Marwolaethau 1922]]
 
{{Authority control}}