Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer"

Ychwanegwyd 21 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
B
(→‎Bywgraffiad: Awdurdod)
Ganed hi yn [[Llanofer]], gerllaw [[Y Fenni]] yn [[Sir Fynwy]], yn ferch ieuengaf Benjamin Waddington, Ty Uchaf, Llanofer a'i wraig Georgina Port. Yn 1823, priododd [[Benjamin Hall, Barwn 1af Llanover|Benjamin Hall]], priodas a unodd ei ystad ef yn Abercarn a'i hystad hi yn Llanofer.
 
Roedd gan Arglwyddes Llanover ddiddordeb mawr mewn astudiaethau Celtaidd, a dylanwadwyd arni gan [[Thomas Price (Carnhuanawc)]] wedi iddi ei gyfarfod mewn eisteddfod leol yn [[1826]]. Dysgodd Carnhuanawc Gymraeg iddi, a chymerodd yr enw barddol "Gwenynen Gwent". Daeth yn aelod cynnar o gymdeithas Cymreigyddion Y Fenni. Yn Eisteddfod Caerdydd [[1834]], enillodd y wobr gyntaf am draethawd ''Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales''. Roedd ganddi ddiddordeb arbennig yn y wisg Gymreig draddodiadol a hi a fu'n gyfrifol yn bennaf am ddyfeisio'r 'wisg genedlaethol' gyfarwydd gyda'i chlogyn goch a'r het dal ddu.
 
Yn [[1850]], cynorthwyodd i sefydlu ''[[Y Gymraes]]'', y cylchgrawn cyntaf i ferched yn Gymraeg. Cyhoeddodd lyfr ar goginio traddodiadol Cymreig, ac roedd ganddi ddiddordeb yn y [[Telyn|delyn]], gan gyflogi telynor preswyl yn Llanover Hall. Ariannodd eiriadur Cymraeg [[Daniel Silvan Evans]].
 
Roedd hefyd yn cefnogi'r Mudiad Dirwest, a chaeodd bob tafarn ar ei hystad.
[[Categori:Noddwyr llenyddiaeth]]
[[Categori:Pobl o Sir Fynwy]]
 
{{Authority control}}
420,642

golygiad