Aurelian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q46780 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Busto di Claudio II il Gotico, Brescia, Santa Giulia.jpg|thumb|right|200px|Cerflun o Aurelian]]
 
'''Lucius Domicius Aurelianus''' ([[9 Medi]] [[214]] - [[275]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[270]] hyd 275.
 
Ganed Aurelian yn [[Moesia]] neu [[Pannonia]], yn fab i wladwr. Ymunodd a'r fyddin ac erbyn [[268]] yr oedd yn gyfrifol am y marchogion yn yr Eidal pan ddechreuodd [[Aureolus]] ei wrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr [[Gallienus]]. Cydweithredodd Aurelian gyda'r cadfridog Claudius, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarch fel [[Claudius II]], i orchfygu Aureolus. Wedi'r fuddugoliaeth dechreudd y ddau gadfridog gynllwynio yn erbyn Gallienus, a chyhoeddwyd Claudius yn ymerawdwr ac Aurelian yn ''dux equitum'', pennaeth y marchogion.
 
Wedi marwolaeth Claudius daeth ei frawd [[Quintillus]] yn ymerawdwr, ond cychwynodd Aurelian tua [[Rhufain]] gyda'i fyddin i ennill yr ymerodraeth iddo'i hun. Lladdodd Quintillus ei hun pan welodd fod byddin Aurelian yn gryfach na'i fyddin ef.
 
Wedi dod i'r orsedd bu raid i Aurelian ddelio a nifer o ryfeloedd oedd wedi dechrau yn ystod teyrnasiad Claudius. Gallodd roi diwedd ar ryfel yn erbyn y [[Gothiaid]] mewn byr amser, ond yna bu ymladd yn erbyn llwythi [[Germaniaid|Almaenaidd]] eraill megis y [[Marcomanni]] a'r [[Vandaliaid]] oedd yn ceisio croesi [[Afon Donaw]]. Llwyddodd Aurelian i'r gyrru hwythau yn ôl.
 
Bu argyfwng arall pan groesodd y Germaniaid yr [[Alpau]] i anrheithio'r Eidal. Ceisiodd Aurelian eu hatal yn yr Alpau, ond gorchfygwyd ef ganddynt. Ychydig yn ddiweddarach bu helyntion yn Rhufain ei hun, a bu'n rhaid i Aurelian ddefnyddio'r fyddin i adfer heddwch. Dywedir i 7,000 o bobl gael eu lladd yn y ddinas, yn cynnwysd aelodau o'r [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Gwellodd y sefyllfa yng ngogledd yr Eidal pan ymrannodd y Germaniaid yn fyddinoedd llai, a gallodd yr ymerawdwr eu gorchfygu fesul un. Oherwydd yr ymosodiadau hyn penderfynodd Aurelian adeiladu mur o amgylch Rhufain, [[Mur Aurelianus]]. Dechreuodd y gwaith yn [[271]] a gorffenwyd ef yn nheyrnasiad [[Probus]].
Llinell 13:
[[Delwedd:AV Anoninianus Aurelianus I.JPG|left|thumb|Arian yn dangos delwedd Aurelian]]
 
Cyhoeddodd nifer o bersonau eu hunain yn ymerodron, ond llwyddodd Aurelian i'w gorchfygu heb ormod o drafferth. Yn [[272]] gorchfygodd y Gothiaid ar ffin Afon Donaw, gan ladd eu brenin, Cannabaudes. Yna troes tua'r dwyrain, lle'r oedd [[Zenobia (Brenhines Palmyra)|Zenobia]], brenhines [[Palmyra]] wedi adeiladu ymerodraeth oedd yn ymestyn o'r [[Aifft]] hyd [[Asia Leiaf]]. Gorchfygodd Aurelian Zenobia mewn dwy frwydr cyn gwarchae ar Palmyra. Ceisiodd Zenobia ddianc i [[Persia]] ond cymerwyd hi'n garcharor gan y Rhufeiniaid.
 
Yn awr troes Aurelian tua'r gorllewin, lle'r oedd [[yr Ymerodraeth Alaidd]] wedi dod yn rhydd o reolaeth Rhufain. Ildiodd [[Tetricus I]], ymerawdwr y Galiaid, a'i fab [[Tetricus II]], i Aurelian, ac ail-ymgorfforwyd tiriogaethau'r Ymerodraeth Alaidd yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
 
Wedi delio a gelynion allanol, rhoes Aurelian ei sylw i'r economi. Bathodd ddau fath newydd o arian, un ohonynt wedi ei enwi yn "Aurelian". Gwnaeth ymdrech fawr i ddileu llygredd yn yr ymerodraeth. O ran crefydd, ceisiodd Aurelian uno'r ymerodraeth trwy ledaenu cwlt [[Mithras]], oedd yn boblogaidd iawn ymhlith y milwyr.
 
Yr oedd Aurelian yn cynllunio ymgyrch i adennill [[Mesopotamia]] i'r ymerodraeth pan lofruddiwyd ef gan ei ysgrifennydd personol, Eros, efallai am ei fod yn ofni am ei safle yn wyneb ymgyrch Aurelian yn erbyn llygredd. Cyhoeddwyd ef yn dduw yn nheyrnasiad ei olynydd, [[Tacitus (ymerawdwr)|Marcus Claudius Tacitus]].
Llinell 33:
 
{{Link FA|fi}}
 
{{Authority control}}