Agor y brif ddewislen

Newidiadau

Ychwanegwyd 23 beit ,  5 o flynyddoedd yn ôl
→‎Hanes: Awdurdod
 
Fel ''Il duce'' roedd ei lywodraeth yn mwynhau cefnogaeth boblogaidd ar y dechrau. Cyflwynodd raglenni o waith cyhoeddus, gosododd drefn ar y wlad yn dilyn anhrefn ac ansicrwydd y cyfnod ôl-Ryfel, a adferodd freintiau'r [[Eglwys Gatholig Rufeinig]]. Dyma'r dyn "a wnaeth y trenau redeg ar amser". Cododd sawl adeilad a chofeb rhwysgfawr yn yr arddull [[Neo-Glasuriaeth|Neo-Glasurol]], wedi'u ysbrydoli gan 'fawredd' yr [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Ond roedd yn llawdrwm iawn ar unrhyw wrthwynebiad gwleidyddol hefyd a dioddefodd nifer o Eidalwyr am eu daliadau dan ei lywodraeth a chreulondeb brwnt y Crysau Duon.
 
 
Ceisiodd ymestyn grym yr Eidal a sefydlu ei hawdurdod yn Affrica. Anfonodd fyddin i oresgyn [[Ethiopia]] yn 1935. Yn 1936 ffurfiodd gynghrair gydag [[Adolf Hitler]] a'r [[Natsïaid]] a alwyd yn Echel Rhufain-Berlin. Yn 1939 cipiodd [[Albania]] a phan dorrodd yr [[Ail Ryfel Byd]] allan cyhoeddodd ryfel yn erbyn [[Y Deyrnas Unedig|Prydain]] a [[Ffrainc]] ym Mehefin 1940. Ond roedd y rhyfel yn drychinebus i'r Eidal a chafwyd colledion mawr yng [[Libya]], [[Horn Affrica]] a [[Gwlad Groeg]]. Pan oresgynodd y Cynghreiriaid ynys [[Sisili]] yn 1943, gorfodwyd Mussolini i ymddeol o rym gan Gyngor Mawr y Blaid Ffasgaidd. Ffoes o Rufain i ogledd yr Eidal lle sefydlodd weriniaeth [[ffasgaidd]] newydd dan nawdd yr Almaenwyr. Cafodd ef a'i fistres [[Clara Petacci]] eu dal gan y partisanwyr a'u dienyddio. Crogwyd eu cyrff mewn sgwar ym [[Milan]] cyn eu claddu. Roedd unbennaeth Mussolini ar ben.
{{bocs olyniaeth | cyn = [[Luigi Facta]] | teitl = [[Prif Weinidogion yr Eidal|Prif Weinidog yr Eidal]] | blynyddoedd = [[31 Hydref]] [[1922]] – [[25 Gorffennaf]] [[1943]]| ar ôl = [[Pietro Badoglio]]}}
{{diwedd-bocs}}
 
{{eginyn Eidalwyr}}
 
{{Cyswllt erthygl ddethol|uk}}
[[Categori:Prif Weinidogion yr Eidal]]
[[Categori:Unbeniaid]]
 
 
{{eginyn Eidalwyr}}
 
{{Authority control}}
358,611

golygiad