Bertrand du Guesclin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 21 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q314905 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
Uchelwr [[Llydaw|Llydewig]] a chadfridog [[Ffrainc|Ffrengig]] yn y [[Rhyfel Can Mlynedd]] oedd '''Bertrand du Guesclin''', [[Llydaweg]]: '''Beltram Gwesklin''' (c. 1320 - [[13 Gorffennaf]] [[1380]]). Adnabyddid ef fe; "Eryr Llydaw", ac roedd yn gyfaill i [[Owain Lawgoch]]. Llwyddodd i adennill y rhan fwyaf o Ffrainc o afael brenin [[Lloegr]].
 
Ganed Bertrand du Guesclin yn [[Broons]], ger [[Dinan]], yn Llydaw. Roedd ei deulu yn fân-uchelwyr Llydewig. Ar ddechrau ei yrfa, roedd yng ngwasanaeth [[Siarl o Blois]] yn [[Rhyfel Olyniaeth Llydaw]] (1341-1364). Gwnaed ef yn farchog yn 1354. Yn 1356-1357, daeth Du Guesclin i sylw'r [[Dauphin]] Siarl trwy amddiffyn dinas [[Roazhon]], oedd dan warchae gan y Saeson.
 
Yn 1364, daeth Siarl yn frenin Ffrainc fel [[Siarl V, brenin Ffrainc|Siarl V]], a gyrrodd Du Guesclin i ymladd yn erbyn [[Siarl II, brenin Navarra]], oedd yn ceisio meddiannu Dugiaeth [[Bwrgwyn]]. Llwyddodd i orchfygu byddin Navarra dan [[Jean III de Grailly, captal de Buch|Jean de Grailly, Captal de Buch]] ym Mrwydr Cocherel. Ym mis Medi 1364, gorchfygwyd ef a Siarl o Blois gan [[Ioan V, Dug Llydaw]] a byddin Seisnig dan Syr [[John Chandos]]. Lladdwyd Siarl a chymerwyd Du Guesclin yn garcharor. Talodd Siarl V 100,000 [[ffranc]] i'w ryddhau.
Llinell 14:
[[Categori:Llydawyr]]
[[Categori:Milwyr]]
 
{{Authority control}}