Cadafael ap Cynfeddw: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau |
Awdurdod |
||
Llinell 2:
==Bywgraffiad==
Pan laddwyd [[Cadwallon ap Cadfan]]. brenin Gwynedd, yn 634, cipiwyd y deyrnas gan Cadafael ap Cynfeddw. Yr oedd gan Gadwallon fab, [[Cadwaladr ap Cadwallon]], ond yr oedd yn dal yn blentyn. Mae'n ymddangos nad oedd Cadafael yn aelod o'r teulu brenhinol, a gellir casglu iddo gipio'r orsedd trwy rym.<ref name="John Edward Lloyd 1911">John Edward Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co.).</ref>
Gwnaeth gynghrair gyda [[Mercia]] ac ymladdodd ochr yn ochr a [[Penda]] brenin Mercia yn erbyn [[Northumbria]]. Pan ymosododd Penda ar Northumbria yn [[655]], yr oedd Cadafael a'i fyddin gydag ef. Gorchfygwyd byddin Penda gan Oswy ym [[Brwydr Winwaed|Mrwydr Winwaed]]. Yr oedd Cadafael a'i fyddin wedi troi am adref y noson cynt, ac ni chymerasant ran yn yr ymladd. Mae'n ansicr a oedd Cadafael yn fwriadol yn dymuno osgoi ymladd ynteu nad oedd yn gwybod fod byddin Oswy yn y cyffiniau. Beth bynnag yr eglurhad, enillodd yr enw sarhaus "Cadomedd", hynny yw "gwrthodwr brwydr".<ref
Mae'n debyg na fu Cadafael yn frenin Gwynedd yn hir ar ôl y digwyddiad yma, ond nid oes gwybodaeth beth ddigwyddodd iddo. Rywbryd yn y blynyddoedd nesaf daeth Cadwaladr ap Cadwallon yn frenin.<ref
==Cyfeiriadau==
Llinell 23:
[[Categori:Marwolaethau'r 650au]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
{{Authority control}}
|