782,887
golygiad
B (→Cyfeiriadau) |
(Awdurdod) |
||
:''Gweler hefyd [[Cadwaladr (gwahaniaethu)]].''
Roedd '''Cadwaladr ap Cadwallon''' (''c.'' [[633]]–[[682]], teyrnasodd o ''c.'' [[655]]) ([[Lladin]]: Catuvelladurus), a adnabyddir fel '''Cadwaladr Fendigaid''', yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]].
==Hanes==
Yr oedd Cadwaladr yn blentyn pan laddwyd ei dad, [[Cadwallon ap Cadfan]], mewn brwydr yn erbyn Oswald o [[Northumbria]]. Cipiwyd teyrnas Gwynedd gan [[Cadafael Cadomedd ap Cynfeddw]], a bu raid i Gadwaladr ffoi. Credir iddo fyw yn [[Iwerddon]], [[Llydaw]] neu un o'r teyrnasoedd Cymreig eraill. Llwyddon Cadwallon i adennill teyrnas ei dad, ond nid oes gwybodaeth am sut y gwnaeth hyn. Erbyn [[658]] yr oedd yn ddigon grymus i ymosod ar y Saeson yng [[Gwlad yr Haf|Ngwlad yr Haf]], ond heb lwyddiant.
Wedi hyn, nid yw'n ymddangos i Gadwaladr arwain byddinoedd tu allan i Wynedd. Yr oedd enw iddo am fod yn frenin duwiol dros ben, a chafodd yr enw "Cadwaladr Fendigaid". Sefydlodd nifer o eglwysi yng Ngwynedd, a chredir mai ef yw'r "Cadwaladr" sy'n cael ei goffau yn enw eglwys Llangadwaladr ar [[Ynys Môn]], lle gellir gweld carreg fedd ei daid, [[Cadfan ap Iago]].
Yn ôl yr ''[[Annales Cambriae]]'', bu farw o'r pla yn [[682]]. Mae rhai ffynonellau'n awgrymu iddo farw mewn pla cynharach yn [[663]]/[[664]], ond ymddengys hyn yn llai tebygol.
==Traddodiadau amdano==
Mae traddodiad a geir yn y casgliad [[Trioedd Ynys Prydain]] yn rhestru 'Tair Gwyth Balfawd Ynys Prydain' (Tri thrawiad niweidiol...'), a'r drydedd yw'r un a roddodd [[Golyddan Fardd]] i Gadwaladr Fendigaid. Does dim cyfeiriad at ei ladd gan Golyddan yn y croniclau. Ceir cyfeiriad arall gan y bardd [[Philyp Brydydd]] at ladd Gadwaladr gan Golyddan.<ref>''Trioedd Ynys Prydein'', Triawd 53 a thud. 292.</ref>
Parhaodd y côf am Cadwaladr yn y [[Brudiau]] fel [[Mab Darogan]]. Yn ''[[Armes Prydein]]'' darogenir y bydd Cynan a Chadwaladr yn arwain y Cymry a'u cyngheiriad i fuddugoliaeth yn erbyn y Saeson. Cysylltir baner y [[Y Ddraig Goch|Ddraig Goch]] ag ef, a defnyddiwyd y ddraig goch fel arwydd [[Harri Tudur]] ym [[Brwydr Bosworth|Mrwydr Bosworth]]. gan fod Harri yn hawlio bod yn ddisgynnydd Cadwaladr.
[[Categori:Marwolaethau 682]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
{{Authority control}}
|