Carolus Linnaeus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cywiro iaith
Awdurdod
Llinell 9:
}}
 
Biolegydd [[Sweden|Swedaidd]] oedd '''Carolus Linnaeus''' (yn hwyrach, '''Carl von Linné''' ac yn wreiddiol ''Carl Linnæus'' neu ''Carolus Linnæus'' yn [[Swedeg]]) ([[23 Mai]] [[1707]] – [[10 Ionawr]] [[1778]]). Cyflwynodd y system [[dosbarthiad biolegol]] a chafodd lawer o ddylanwad ar [[ecoleg]] modern.
 
Fe'i ganwyd yn [[Stenbrohult]] mewn ardal [[Smalandia]] yn ne [[Sweden]]. Roedd ei dad a'i daid yn eglwyswyr ac roedden nhw'n dymuno'r un gwaith i Carolus. Ond roedd ei diddordeb e mewn [[botaneg]] a danfonwyd ef i astudio ym [[Prifysgol Lund|Mhrifysgol Lund]] ac ar ôl blwyddyn aeth ef [[Prifysgol Uppsala|Brifysgol Uppsala]].
 
Yn ystod ei astudiaethau daeth Linnaeus i'r penderfyniad y dylai dosbarthiad planhigion fod yn seiliedig ar [[briger|friger]] a [[pistil|phistil]] ac ysgrifennodd draethawd bach am ei damcaniaeth. O ganlyniad, enillodd ef swydd fel [[is-athro]] <!-- Saesneg: "adjunct professor" --> Ym [[1732]] cafodd arian gan Academi'r Gwyddorau (''Academy of Sciences'') Uppsala i deithio ac astudio brodorion [[Laponia|Laplandia]], mwynau gwerthfawr, planhigion ac anifeiliaid - mewn tir a oedd bron heb ei gofnodio ar y pryd. Ar ôl hynny cyhoeddodd ''Flora Laponica'' ym [[1737]].
 
Aeth Linnaeus i'r cyfandir a chyfarfu a [[Jan Frederik Gronovius]] yn [[yr Iseldiroedd]]. Dangosod iddo ddrafft o'i draethawd am ddosbarthiad biolegol, ''[[Systema Naturae]]'', i Gronovius. Roedd y system hon yn defnyddio enwau genws-rhywogaeth byrion a manwl-gywir yn lle enwau hirion traddodiadol, e.e. ''Physalis angulata'' yn lle ''physalis amno ramosissime ramis angulosis glabris foliis dentoserratis''. Er iddo ddatblygu'r system hon, sef [[enwi deuenwol]], gan y [[Bauhin|brodyr Bauhin]], roedd Linnaeus yn ehangu ac yn hysbysu'r system ymhellach.
 
Rhoddodd Linnaeud enwau synhwyrol i'r anifeiliad a'r planhigion. Er enghraifft roedd dyn yn ''Homo sapiens'' "dyn call" iddo fe. Ond iddo fe, roedd rhywogaeth dyn arall hefyd: ''Homo troglodytes'', sef "dyn sy'n byw mewn ogof". Roedd hynny yn golygu [[tsimpansî]] sydd yn ''Pan troglodytes'' heddiw. Rhododd enw i [[mamal|famaliaid]] hefyd, ar ôl eu chwarennau tethol.
 
Ym [[1739]] priododd a Sara Morea, merch i feddyg. Ac ym [[1741]] cafodd swydd fel athro meddygol ym Mhrifysgol Uppsala, ond symudodd i swydd fel athro botaneg cyn hir. Roedd ei waith ar ddosbarthiad yn parhau gan gynnwys anifeiliaid a mwynau.
 
Ym [[1755]] fe'i gwnaed yn farchog a newydwyd ei enw i Carl von Linné.
Llinell 32:
[[Categori:Marwolaethau 1778]]
[[Categori:Biolegwyr Swedaidd]]
 
{{Authority control}}