Cicero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1541 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:M-T-Cicero.jpg|bawd|200px|[[Marcus Tullius Cicero]].]]
 
Gwleidydd, cyfreithiwr, athronydd ac awdur Rhufeinig oedd '''Marcus Tullius Cicero''' (3 Ionawr 106 CC – 7 Rhagfyr 43 CC).
 
Ganed Cicero yn [[Arpinum]] (Arpino heddiw), tua 100 km i'r de o [[Rhufain|Rufain]]. Roedd yn deulu yn uchelwyr lleol, gyda chysylltiad pell ag un arall o enwogion Arpinum, [[Gaius Marius]],ond heb gysylltiad a'r teuluoedd [[Senedd Rhufain|seneddol]]. Bu'n astudio'r gyfraith dan [[Quintus Mucius Scaevola Augur|Quintus Mucius Scaevola]], a dywed [[Plutarch]] ei fod yn fyfyriwr eithriadol o alluog. Dechreuodd ei yrfa fel cyfreithiwr tua 83-81 CC; ei achos llys pwysig cyntaf oedd amddiffyn [[Sextus Roscius]] ar gyhuddiad o lofruddio ei dad. Ymhlith y bobl a gyhuddwyd gan Cicero fel y gwir lofruddion roedd [[Lucius Cornelius Chrysogonus|Chrysogonus]], ffefryn [[Lucius Cornelius Sulla]] oedd yn feistr Rhufain ar y pryd.
 
Yn [[79 CC]], aeth Cicero i [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]], [[Asia Leiaf]] a [[Rhodos]], a threuliodd amser yn astudio rhethreg dan [[Apollonius Molon|Molon o Rhodos]]. Wedi dychwelyd i Rufain, fe'i hetholwyd yn [[quaestor]] yn [[75 CC]], gan wasanaethu yn [[Sicilia]]. Gofynnodd y Siciliaid iddo eu cynrychioli i erlyn [[Gaius Verres]], llywodraethwr Sicilia oedd wedi ymgyfoethogi ar draul y wlad. Bu'r achos yn erbyn Verres yn [[70 CC]] yn llwyddiant mawr i Cicero, a daeth yn enwog yn Rhufain.
Llinell 11:
[[Delwedd:Maccari-Cicero.jpg|250px|chwith|bawd|Cicero yn ymosod ar Catilina yn Senedd Rhufain (ffresgo, [[19eg ganrif]])]]
 
Yn [[61 CC]] gwahoddodd [[Iŵl Cesar]] ef i fod yn bedwerydd yn ei bartneriaeth gyda [[Gnaeus Pompeius Magnus]] a [[Marcus Licinius Crassus]], ond gwrthododd Cicero. Yn [[58 CC]] cyhoeddodd [[Publius Clodius Pulcher]], tribwn y bobl, ddeddf yn alltudio unrhyw un oedd wedi dienyddio dinasyddion Rhufeinig heb eu rhoi ar brawf. Roedd Cicero wedi gwneud hyn adeg cynllwyn Catilina, a bu raid iddo adael am Wlad Groeg. Dychwelodd i Rufain yn [[57 CC]].
 
Amddiffynnodd Cicero [[Titus Annius Milo|Milo]] ar gyhuddiad o lofruddio, ac ystyrir ei araith ''[[Pro Milone]]'' yn un o'i gampweithiau. Er hynny, alltudiwyd Milo. Erbyn [[50 CC]] roedd y berthynas rhwng Cesar a Pompeius wedi dirywio, a rhoddodd Cicero ei gefnogaeth i Pompeius. Yn y cyfnod wedi llofruddiaeth Cesar yn [[44 CC]], cyhoeddodd gyfres o ymosodiadau ar [[Marcus Antonius]], y [[Philippic]]au.
 
Pan ddaeth Antonius ac [[Augustus|Octavianus]] i gytundeb i rannu grym, cyhoddwyd enw Cicero ar restr o elynion. Daliwyd ef wrth iddo adael ei fila yn [[Formiae]] ar ei ffordd tua'r porthladd i geisio dianc, a lladdwyd ef.
Llinell 100:
[[Categori:Llenorion]]
[[Categori:Llenyddiaeth Ladin Glasurol]]
 
{{Authority control}}