Cináed mac Ailpín: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 28 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q298263 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Image:CináedmacAilpín.JPG|bawd|200px|Kenneth I]]
 
Brenin cyntaf [[yr Alban]] unedig, o leiaf yn ôl traddodiad, oedd '''Cináed mac Ailpín''', [[Saesneg]]: '''Kenneth MacAlpin''' neu '''Kenneth I''', (wedi 800 - [[13 Chwefror]] [[858]]).
 
Brenin y [[Pictiaid]] oedd Cináed, am ymddengys iddo gyfuno teyrnas y Pictiaid a theyrnas [[Dál Riata]]. Roedd brenhinllin yr Alban yn hawlio bod yn ddisgynyddion iddo. Mae ansicrwydd beth yn union oedd ei gysylltiad ef a theyrnas y Pictiaid a Dál Riata, ac a oedd yr uniad yn golygu fod un deyrnas wedi gorchfygu'r llall.
 
Ystyrir fod teyrnasiad Cináed fel brenin y Pictiaid wedi dechrau yn [[843]], ond mae'n debyg ei bod yn [[848]] cyn iddo orchfygu'r olaf o hawlwyr eraill yr orsedd. Dywed rhai ffynonellau ei fod yn frenin Dál Riata cyn dod yn frenin y Pictiaid, ond mae amheuaeth am hyn. Bu farw o gancr yn [[858]], efallai yn [[Scone]], a chladdwyd ef ar ynys [[Iona]]. Er bod traddodiad diweddarach yn ei ddisgrifio fel brenin cyntaf [[Teyrnas Alba]], fel "Brenin y Pictiaid" y mae'r Brutiau yn cofnodi ei farwolaeth. Gadawodd o leiaf ddau fab, [[Cystennin I, brenin yr Alban]] ac Áed, ac o leiaf ddwy ferch; priododd un ohonynt [[Rhun, brenin Ystrad Clud|Rhun]], brenin [[Ystrad Clud]].
Llinell 9:
[[Categori:Brenhinoedd a breninesau'r Alban]]
[[Categori:Marwolaethau 858]]
 
{{Authority control}}