Claude Monet: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 13:
:''Mae '''Monet''' yn ailgyfeirio i'r dudalen hon. Ni ddylid cymysgu rhwng Monet a [[Édouard Manet|Manet]], paentiwr arall o'r un cyfnod.''
 
Arlunydd o [[Ffrainc]] oedd '''Claude Oscar Monet''' ([[14 Tachwedd]] [[1840]] - [[5 Rhagfyr]] [[1926]]), yn sylfaenydd y mudiad celfyddydol [[Argraffiadaeth]] ''(Impressionnisme)'', Ei baentiad ''Impression: Soleil levant'' ('Argraff: Yr haul yn codi') a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd. <ref>House, John, et al.: ''Monet in the 20th century'', page 2, Yale University Press, 1998.</ref><ref Name=giverny>{{cite web|url=http://giverny.org/monet/biograph/ |title=Claude MONET biography |publisher=Giverny.org |date=2 December 2009 |accessdate=5 June 2012}}</ref>
Roedd ei uchelgais o ddogfenni tirwedd Ffrainc yn ei arwain i beintio'r un olygfa sawl tro er mwyn dal newidiadau yn y golau wrth i'r tymhorau pasio. O 1883 ymlaen bu'n byw yn [[Giverny]], ble y prynodd dŷ ac aeth ati i godi gerddi yn cynnwys pyllau lili a ddaeth yn rhai o'i ddarluniau enwocaf.
 
==Monet ac Argraffiadaeth ''(Impressionnisme)''==
[[File:Claude Monet, Impression, soleil levant.jpg|thumb|left|200px|''Impression, soleil levant'', 1872; (Argraff, yr haul yn codi) a roddodd yr enw i'r mudiad arloesol newydd. Musée Marmottan Monet, Paris]]
Yn siomedig ag agwedd ceidwadol yr ''Académie des Beaux-Arts'' ac eu hymateb negyddol i'w gwaith, trefnodd Monet a grŵp o arlunwyr o'r un meddwl arddangosfa eu hunain ym 1874. Roedd yr arddangosfa yn agored i unrhyw un oedd yn fodlon talu 60 ffranc ac yn cymeradwyo dim ymyrraeth o banel o ddetholwyr i wrthod unrhyw waith.
 
Fe arddangoswyd cyfanswm o 165 o weithiau, yn cynnwys rhai gan [[Renoir]], [[Degas]], [[Pissarro]] a [[Cézanne]].
 
Galwyd y grŵp yn ''Impressionnistes''. Eu nod oedd dylunio'r byd o'u cwmpas mewn modd mwy rhydd a ffres na chaniataodd gonfensiynau academaidd y cyfnod, gan ddal yr "argraff" cyffredinol o olygfa a welir gan y llygaid, gyda phwyslais ar effeithiau lliw a golau. Roedd peintio tirluniau yn yr awyr agored yn un o brif nodweddion y symudiad, yn ogystal â golygfeydd o fywyd dinesig bob dydd.
<ref>[http://www.artchive.com/galleries/1874/74leroy.htm From John Rewald, ''The History of Impressionism'']</ref>
{{-}}
 
 
<gallery caption= "Darluniau 1858–1872" heights= 150px widths= "180px" perrow="4">
Llinell 36 ⟶ 35:
File:Claude Monet La Grenouillére.jpg|''La Grenouillére'' 1869, Amgueddfa Gelf, Efrog Newydd; darlun bach 'plein-air' (yn yr awyr agored) gyda strôc frwsh llydan o liw cryf.<ref>[http://www.metmuseum.org/Collections/search-the-collections/437135?rpp=20&pg=1&ao=on&ft=Claude+Monet&pos=2 ''La Grenouillére'' at the Metropolitan Museum of Art]</ref>
File:Monet - The Magpie.jpg|''Y Bioden'', 1868–1869. Musée d'Orsay, Paris; Un o ymdrechion cynnar Monet i ddal effaith eira ar y dirwedd.
File:Claude Monet, 1870, Le port de Trouville (Breakwater at Trouville, Low Tide), oil on canvas, 54 x 65.7 cm, Museum of Fine Arts, Budapest.jpg|''Le port de Trouville (Morglawdd Trouville, ar lanw isel)'', 1870, Amgueddfa Gelf Gain, Budapest. <ref>[http://www.szepmuveszeti.hu/adatlap_eng/breakwater_at_trouville_low_tide_599 ''Le port de Trouville'', Museum of Fine Arts, Budapest]</ref>
File:Claude Monet 002.jpg|''La plage de Trouville'', 1870, National Gallery, Llundain. Y person ar y chwith gall fod yn Camille, ar y dde gwraig Eugène Boudin<ref>[http://www.nationalgallery.org.uk/paintings/claude-monet-the-beach-at-trouville ''La plage de Trouville'', 1870, National Gallery, London]</ref>
File:Claude Monet - Jean Monet on his Hobby Horse.jpg|''Jean Monet ar ei geffyl pren'', 1872, Amgeuddfa Gelf Metropolitan, Efrog Newydd
File:Claude Monet - Springtime - Google Art Project.jpg|''Gwanwyn'' 1872, Amgueddfa Gelf Walters
</gallery>
 
 
Ym 1876 symudodd teulu Monet i bentref Vétheuil yn rhannu tŷ ag Ernest Hoschedé, dyn busnes cyfoethog ac yn gefnogwr y celfyddydau. Ym 1879 bu farw ei wraig Camille o ganser yn 32 mlwydd oed.<ref>{{cite web |url=http://www.artelino.com/articles/la_japonaise.asp |title=La Japonaise |publisher=artelino |date= |accessdate=5 June 2012}}</ref><ref>http://members.aol.com/wwjohnston/camille.htm</ref>
Yn y cyfnod anodd wedi colled Camille peintiodd Monet rhai o ddarluniau gorau yn darganfod Giverny yn [[Normandi]] ym 1883.
 
Yn 1877 gwnaeth gyfres o ddarluniau o orsaf drenau St-Lazare, Paris, yn astudio ager a mŵg a'r ffordd a'u heffaith ar liw a thryloywder. Roedd yn gallu defnyddio’r astudiaethau hyn yn ddiweddarach ar gyfer effeithiau niwl a glaw.<ref name="giverny1">{{cite web|url=http://giverny.org/giverny/ |title=Monet's Village |publisher=Giverny |date=24 February 2009 |accessdate=5 June 2012}}</ref><ref>Charles Merrill Mount, ''Monet a biography'', [[Simon and Schuster]] publisher, copyright 1966, p326.</ref>
 
 
Yn 1877 gwnaeth gyfres o ddarluniau o orsaf drenau St-Lazare, Paris, yn astudio ager a mŵg a'r ffordd a'u heffaith ar liw a thryloywder. Roedd yn gallu defnyddio’r astudiaethau hyn yn ddiweddarach ar gyfer effeithiau niwl a glaw.<ref name="giverny1">{{cite web|url=http://giverny.org/giverny/ |title=Monet's Village |publisher=Giverny |date=24 February 2009 |accessdate=5 June 2012}}</ref><ref>Charles Merrill Mount, ''Monet a biography'', [[Simon and Schuster]] publisher, copyright 1966, p326.</ref>
 
<gallery caption= "Darluniau 1873–1879" widths= "180px" heights= 150px perrow="4">
Llinell 64 ⟶ 60:
[[File:Monet in Garden, New York Times, 1922.JPG|thumb|Monet, ar y dde, yn ei ardd yn Giverny, 1922]]
Prynodd dŷ yn Giverny ar gyfer ei deulu mawr, gydag ysgubor ar gyfer ei stiwdio. Wrth i gyfoeth Monet dyfu fe ehangodd y gerddi gan gyflogi 7 o arddwyr a phensaer.<ref>{{cite news|url=http://www.boston.com/travel/getaways/europe/articles/2007/05/20/monets_gardens_a_draw_to_giverny_and_to_his_art/|title=Monet's gardens a draw to Giverny and to his art|publisher=Globe Correspondents|date=20 May 2007|accessdate=13 October 2008 | first=Robert | last=Garrett}}</ref>
Ym 1993 prynodd ragor o diroedd yn cynnwys dolydd gwlyb ble'r adeiladodd lynnoedd gyda lilis a phont Japaneaidd. Treuliodd yr 20 mlynedd nesaf yn gwneud cyfres o gynfasau mawrion o'r golygfeydd hyn gan astudio'r golau a'r adlewyrchiadau a ddaeth yn rhai o'i weithiau enwocaf. <ref name= AGV>Art Gallery of Victoria, [http://www.ngv.vic.gov.au/whats-on/exhibitions/exhibitions/monets-garden/explore/themes/waterlilies-symbol-of-the-orient-and-modern-science Monet's Garden], (retrieved 16 December 2013)</ref> Mae'r tŷ yn Giverny bellach yn agored i'r cyhoedd ac yn denu miloedd o dwristiaid o bob cwr o'r byd.
 
 
<gallery caption= "Gardd Monet" widths= "180px" heights= 150px perrow="4">
Llinell 77 ⟶ 72:
 
Peintiodd Monet yn uniongyrchol ar gynfasau mawrion yn yr awyr agored, a'u gorffen yn ei stiwdio yn nes ymlaen. Yn ei ymgais i well gyfleu natur fe wrthododd gonfensiynau Ewropeaidd y cyfnod ynglŷn â chyfansoddi, lliw a phersbectif. Fe'i dylanwadwyd gan brintiau bloc pren Japaneaidd, ei drefniadau anghymesur o elfennau yn pwysleisio eu harwynebedd dau ddimensiwn gan hepgor persbectif llinol. Llwyddodd greu lliwiau llachar ysgeifn gan ychwanegu amrywiaeth o dôn i'r cysgodion, ac yn paratoi cefndir y cynfas gyda lliwiau golau yn lle'r cefndiroedd tywyll a oedd yn draddodiadol mewn tirluniau.
 
 
<gallery caption= "Darluniau diweddar Monet" widths= "180px" heights= 150px perrow="4">
Llinell 120 ⟶ 114:
[[Categori:Marwolaethau 1926]]
[[Categori:Pobl o Baris]]
 
{{Authority control}}