Claudius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Awdurdod
Llinell 2:
'''Tiberius Claudius Caesar Augustus Germanicus''' ([[1 Awst]] [[10 CC]] - [[13 Hydref]] [[54]]) ('''Tiberius Claudius Drusus Nero Germanicus''' cyn dod yn ymerawdwr) oedd pedwerydd ymerawdwr Rhufain. Bu'n ymeradwr o [[24 Ionawr]] [[41]] hyd ei farwolaeth. Ganed ef yn [[Lugdunum]] (dinas [[Lyon]] yn [[Ffrainc]] heddiw), yn fab i [[Nero Claudius Drusus|Drusus]] ac [[Antonia Minor]]. Ef oedd yr ymerawdwr cyntaf i gael ei eni tu allan i'r [[Yr Eidal|Eidal]].
 
Mae'n ymddangos fod Claudius yn dioddef o ryw fath o anabledd, ac o'r herwydd nid oedd ei deulu'n awyddus iddo gael gyrfa gyhoeddus. Pan fu farw [[Augustus]] yn [[14]] gofynnodd Claudius i'r ymerawdwr newydd, [[Tiberius]] am gael dechrau gyrfa gyhoeddus, ond ni chaniatawyd iddo. Cafodd fwy o amlygrwydd pan ddaeth [[Caligula]] yn ymerawdwr ar ôl marw Tiberius, ond dywedir fod Caligula yn hoffi cael hwyl am ei ben. Ar [[24 Ionawr]] [[41]], llofruddiwyd Caligula. Aeth Claudius i ymguddio, ond darganfuwyd ef gan rai o'r milwyr a'i gyhoeddi'n ymerawdwr.
 
Ymestynnodd Claudius ffiniau'r ymerodraeth yn sylweddol, gan ychwanegu [[Thrace]], [[Mauretania (talaith)|Mauretania]], [[Noricum]], [[Pamphylia]], [[Lycia]] a and [[Iudaea]] yn ogystal a choncro [[Prydain]]. Yn [[43]], gyrrodd Claudius [[Aulus Plautius]] gyda pedair [[Lleng Rufeinig|lleng]] i Brydain i'w hychwanegu at yr ymerodraeth.
 
Bu farw Claudius ar [[13 Hydref]] [[54]]. Credir iddo gael ei wenwyno, a bod gan ei wraig [[Agrippina]] ran yn y cynllwyn. Dilynwyd ef gan [[Nero]], mab Agrippina o briodas flaenorol.
Llinell 25:
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
[[Categori:Pobl o Lyon]]
 
 
{{eginyn Rhufain}}
 
{{Authority control}}