Clodius Albinus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 31 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q237960 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
Milwr a gwleidydd Rhufeinig oedd '''Decimus Clodius Ceionius Septimius Albinus''', mwy adnabyddus fel '''Clodius Albinus''' ([[25 Tachwedd]] [[147]] - [[19 Chwefror]] [[197]]). Wedi marwolaeth yr ymerawdwr [[Pertinax]], cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr.
 
Ganed ef yn [[Hadrumetum]], yn nhalaith Affrica, i deulu uchelwrol. Ymunodd a'r fyddin, a thynnodd sylw ato ei hun wrth ymadd yn erbyn gwrthryfel [[Avidius Cassius]] yn [[175]]; ysgrifennodd yr ymerawdwr [[Marcus Aurelius]] ddau lythyr ato yn ei ganmol.
 
Daeth yn llywodraethwr talaith [[Gallia Belgica]] ac yna yn llywodraethwr [[Britannia|Prydain]]. Pan lofruddiwyd yr ymerawdwr [[Pertinax]], gwerthodd [[Gard y Praetoriwm]] yr orsedd i'r sawl a gynigiai fwyaf o arian iddynt, y seneddwr cyfoethog [[Didius Julianus]]. Gwrthryfelodd tri llywodraethwr yn ei erbyn, [[Pescennius Níger]] yn [[Syria]], [[Septimius Severus]] yn [[Pannonia]] ac Albinus ym Mhrydain. gyda chefnogaeth y milwyr yng [[Gâl|Ngâl]] hefyd.
 
Ar y dechrau, gwnaeth Albinus gynghrair a Septimius Severus yn erbyn Pescennius Níger. Wedi i Niger gael ei orchfygu ym Mrwydr Issos yn [[194]], bu Albinus a Severus yn ymladd yn erbyn ei gilydd am rai blynyddoedd. Gorchfygwyd byddin Albinus ger [[Lugdunum]] ar [[19 Chwefror]] [[197]], a lladdwyd ef ei hun yn y frwydr.
Llinell 12:
[[Categori:Marwolaethau 197]]
[[Categori:Llywodraethwyr Rhufeinig Prydain]]
 
{{Authority control}}