Cuhelyn Fardd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Uchelwr canoloesol o [[Teyrnas Dyfed|Ddyfed]] yn ne-orllewin [[Cymru]] a oedd efallai yn fardd oedd '''Cuhelyn Fardd''' (fl. yn gynnar yn y [[12fed ganrif]], efallai tua [[1100]] - [[1130]]). Does dim o'i waith wedi goroesi ond roedd yn ffigwr adnabyddus yn yr Oesoedd Canol.<ref name="H. Jarman 1982">A. O. H. Jarman (gol.), ''Llyfr Du Caerfyrddin'' (Caerdydd, 1982), tt. xl-xlii.</ref>
 
==Bywgraffiad==
Roedd Cuhelyn yn perthyn i deulu o feirdd a noddwyr yn y de-orllewin. Roedd yn fab i Gwynfardd Dyfed (bardd na wyddys dim amdano fel arall) ac yn dad i'r bardd Gwrwared Gerdd Gymell, un o gyndeidiau'r cywyddwr enwog [[Dafydd ap Gwilym]]. Roedd yn arglwydd neu dywysog yng [[cantref|nghantref]] [[Cemais (cantref yn Nyfed)|Cemais]], yn Nyfed.<ref>A. O. name="H. Jarman (gol.), ''Llyfr Du Caerfyrddin'' (Caerdydd, 1982), tt. xl-xlii.<"/ref>
 
==Cerdd Llyfr Du Caerfyrddin==
Er nad oes unrhyw destun o ganu Cuhelyn ar glawr heddiw, ceir [[awdl]] foliant iddo yn ''[[Llyfr Du Caerfyrddin]]'' (hanner cyntaf y 13eg ganrif?). Yn y ''[[Myvyrian Archaiology of Wales]]'' ceir testun o'r gerdd hon sy'n cael ei briodoli i Guhelyn, ond gwyddom bellach ei bod yn gerdd iddo ef yn hytrach na cherdd o'i waith ei hun. Mae'n ansicr felly ei fod yn fardd, ond yn sicr roedd yn gynheiliad pwysig i'r [[Cyfundrefn y Beirdd|beirdd proffesiynol]]. Ceir enghreifftiau eraill o uchelwyr a thywysogion a gyfansoddai gerddi, e.e. [[Hywel ab Owain Gwynedd]], felly nid yw'n amosibl fod Cuhelyn yntau yn fardd.<ref>A. O. name="H. Jarman (gol.), ''Llyfr Du Caerfyrddin'' (Caerdydd, 1982), tt. xl-xlii.<"/ref>
 
==Traddodiadau==
Mae'r hynafiaethydd [[George Owen]] yn cofnodi traddodiadau amdano yn [[Sir Benfro]] sy'n ei bortreadu fel [[Canu Darogan|brudiwr]] a [[cyfarwydd|chyfarwydd]] yn ogystal â bardd.<ref>A. O. name="H. Jarman (gol.), ''Llyfr Du Caerfyrddin'' (Caerdydd, 1982), tt. xl-xlii.<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 19:
[[Categori:Marwolaethau'r 12fed ganrif]]
[[Categori:Pobl o Sir Benfro]]
 
{{Authority control}}