Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Cynan Dindaethwy ap Rhodri"

Lleihawyd o 87 beit ,  6 blynedd yn ôl
Awdurdod
(tacluso, categoriau)
(Awdurdod)
 
==Bywgraffiad==
Yn ôl yr achau, yr oedd Cynan yn fab i [[Rhodri Molwynog ap Idwal|Rhodri Molwynog]]. Bu Rhodri farw yn [[754]] ac nid oes sôn am Cynan hyd [[813]], felly awgrymir yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' fod gwall yn yr achau. Daeth Cynan yn frenin Gwynedd ar farwolaeth [[Caradog ap Meirion]], y dywedir ei fod yn gefnder iddo. Bu Cynan yn ymladd a [[Hywel ap Rhodri Molwynog|Hywel]], ei frawd yn ôl Dr. David Powel, er ei fod yn cael ei alw yn Hywel ap Caradog ambell dro. Yn 814 llwyddodd Hywel i gipio [[Ynys Môn]] oddi wrth Cynan. Yn 816 enillodd Cynan yr ynys yn ôl, ond bu farw'r flwyddyn honno.<ref name="ReferenceA">''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).</ref>
 
Mae'r gair ''Dindaethwy'' yn ei enw yn gyfeiriad at gwmwd [[Dindaethwy]] (''Tindaethwy''), un o ddau gwmwd [[cantref]] [[Rhosyr (cantref)|Rhosyr]], yn ne-ddwyrain [[Môn]]. Gorweddai [[cwmwd]] Dindaethwy rhwng Afon Menai a Traeth Lafan i'r de a'r Traeth Coch ar Fôr Iwerddon i'r gogledd. Posiblrwydd arall yw mai Castell Dindaethwy a olygir wrth y "Dindaethwy" yn ei enw, a chredir mai caer ar fryn ger Plas Cadnant, [[Porthaethwy]] ar Ynys Môn ydoedd. Gellir derbyn yn bur hyderus felly mai brodor o'r rhan yma o Fôn oedd Cynan.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).<name="ReferenceA"/ref>
 
Daeth ei ferch Esyllt yn fam i [[Merfyn Frych]], tad [[Rhodri Mawr]].<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940'' (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion).<name="ReferenceA"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
 
{{Authority control}}
449,732

golygiad