Cynan ab Iago: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 8:
:''Ei dad oedd Cynan, frenin Gwynedd, a'i fam oedd Ragnell ferch Afloedd (Olaf Arnaid), frenin dinas Dulyn a phumed ran Iwerddon'' (orgraff ddiweddar).
 
Fodd bynnag, nid oes cofnod arall i Gynan deyrnasu ar Wynedd. Yn ôl ''Historie of Cambria'' ([[1584]]) gan [[David Powel]], ceisiodd ddwywaith i ennill y deyrnas gyda chymorth llynges o Ddulyn. Yn [[1041]], llwyddodd i gymeryd Gruffudd ap Llywelyn yn garcharor, ond gallodd gwŷr Gruffudd ei ryddhau yn fuan. Yn [[1052]], gwasgarwyd ei longau gan storm fawr. Lladdwyd Gruffudd ap Llywelyn gan ei ŵyr ei hun yn [[1063]] yn ôl y rhan fwyaf o ffynonellau, ond dywed Brut Wlster mai Cynan ab Iago a'i lladdodd yn [[1064]].
 
Gellir casglu o Hanes Gruffudd ap Cynan fod Cynan wedi marw pan oedd Gruffudd yn ieuanc. Dywedir i'w fam egluro iddo mai ef oedd gwir etifedd teyrnas Gwynedd, ond nid oes sôn am ei dad yn y cyswllt yma. Pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan i hawlio teyrnas Gwynedd yn ddiweddarach, cyfeirid ato fel "wyr Iago" yn hytrach na "Mab Cynan", sy'n awgrymu nad oedd Cynan yn adnabyddus yng Nghymru .
Llinell 16:
[[Categori:Llinach Aberffraw]]
[[Categori:Marwolaethau'r 1060au]]
 
{{Authority control}}