Dafydd ab Owain Gwynedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 1:
Roedd '''Dafydd ab Owain Gwynedd''' (bu farw 1203) yn frenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] neu rannau o'r deyrnas rhwng 1170 a 1195. Am gyfnod bu'n teyrnasu ar y cyd a'i frodyr [[Maelgwn ab Owain Gwynedd]] a [[Rhodri ab Owain Gwynedd]].
 
==Hanes ei fywyd==
Yr oedd Dafydd yn fab i [[Owain Gwynedd]] o'i wraig [[Cristin ferch Goronwy]]. Oherwydd fod Cristin yn gyfnither i Owain, nid oedd yr eglwys yn cydnabod y briodas, ac felly ystyrid Dafydd yn blentyn gordderch. Clywir amdano gyntaf yn [[1157]] pan ymosododd y brenin [[Harri II o Loegr]] ar Wynedd. Yr oedd Dafydd yn bresennol yn yr ysgarmes yng nghoed [[Penarlâg]] pan fu bron i Harri gael ei ladd. Yn 1165 yr oedd wedi ymsefydlu yn [[Dyffryn Clwyd|Nyffryn Clwyd]] ac mae cofnod amdano'n ymosod ar [[Tegeingl|Degeingl]].
 
Pan fu Owain farw yn 1170, aeth yn ymrafael rhwng ei feibion am y deyrnas. Ymosododd Dafydd a Rhodri ar eu brawd [[Hywel ab Owain Gwynedd]], a'i yrru ar ffo i [[Iwerddon]]. Pan ddychwelodd Hywel gyda byddin o Iwerddon yr un flwyddyn, lladdwyd ef mewn brwydr ym [[Pentraeth|Mhentraeth]]. Yn 1173, gyrrodd Dafydd ei frawd Maelgwn ar ffo i Iwerddon, a bu brawd arall, Cynan, farw yn 1174. Yr un flwyddyn llwyddodd Dafydd i ddal a charcharu Maelgwn (oedd wedi dychwelyd o Iwerddon) a Rhodri, gan ddod yn frenin Gwynedd oll. Y flwyddyn honno hefyd priododd [[Emme o Anjou]], merch i [[Sieffre o Anjou]] a hanner chwaer i'r brenin Harri.
 
Yn 1175 llwyddodd Rhodri i ddianc o garchar ac ymosodd ar ei frawd. Collodd Dafydd y rhan o Wynedd i'r gorllewin o [[Afon Conwy]]. Yn [[1177]] rhoddodd Harri II arglwyddiaethau [[Ellesmere]] a [[Hales]] iddo. Adeiladodd gastell yn [[Rhuddlan]] ac mae cofnod am [[Gerallt Gymro]] yn aros noson yno ar ei daith trwy Gymru.
 
Yn 1194 wynebodd Dafydd fygythiad arall, sef ei nai [[Llywelyn Fawr|Llywelyn ap Iorwerth]], a lwyddodd i'w orchfygu mewn brwydr yn Aberconwy gyda chymorth meibion Cynan ab Owain Gwynedd. Yn 1197 gallodd Llywelyn ddal Dafydd a'i garcharu. Fe'i rhyddhawyd y flwyddyn wedyn ar gais [[Hubert Walter]], [[Archesgob Caergrawnt]], ac aeth i fyw i'w faenorau yn Lloegr. Bu farw yno ym mis Mai 1203.
 
==Noddwr y beirdd==
Cedwir dwy gerdd i Ddafydd ab Owain Gwynedd gan y bardd-ryfelwr [[Gwilym Rhyfel]]. Er nad oes modd profi hynny, mae'n bosibl fod Gwilym yn aelod o osgordd y tywysog; bu farw mewn brwydr.
 
== Cyfeiriadau ==
Llinell 29:
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Marwolaethau 1203]]
 
{{Authority control}}