David Ben-Gurion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:David BG.jpg|bawd|220px|David Ben-Gurion]]
 
Prif weinidog cyntaf [[Israel]] oedd '''David Ben-Gurion''' ([[Hebraeg]]:דָּוִד בֶּן-גּוּרִיּוֹן, ganed fel '''David Grün''' [[16 Hydref]] [[1886]] - [[1 Rhagfyr]] [[1973]]).
 
Ganed Ben-Gurion yn [[Płońsk]], [[Gwlad Pwyl]] yn awr, ond yr adeg honno yn rhan o [[Ymerodraeth Rwsia]]. Cyfreithiwr oedd ei dad, [[Avigdor Grün]]; bu farw ei fam, Scheindel, pan oedd yn 11 oed. Roedd y teulu yn gefnogwyr brwd i [[Seioniaeth]]. Ymfudodd Ben-Gurion i Balesteina yn 1906, a bu'n gweithio mewn amaethyddiaeth yno ar y dechrau. Yn 1912 symudodd i [[Istanbul]] i astudio'r gyfraith, a newidiodd ei gyfenw i Ben-Gurion.
 
Ar y pryd roedd Palesteina yn rhan o'r [[Ymerodraeth Ottomanaidd]], ac yn 1915 taflwyd ef o'r wlad oherwydd ei weithgareddau gwleidyddol, Ymsefydlodd yn [[Efrog Newydd]], lle priododd Paula Munweis yn 1917. Yn dilyn [[Datganiad Balfour]] yn Nhachwedd 1917, ymunodd a Lleng Iddewid y fyddin Brydeinig. Dychwelodd i Balesteina, oedd yn awr dan reolaeth [[Y Deyrnas Unedig|Brydeinig]], ar ddiwedd y rhyfel. Daeth yn amlwg yn y mudiad cenedlaethol, gan ddod yn ysgrifennydd y mudiad llafur Iddewig [[Histadrut]], ac o 1930 ymlaen yn arweinydd [[Mapai]], y blaid lafur Seionaidd.
Llinell 16:
[[Categori:Genedigaethau 1886|Ben Gurion]]
[[Categori:Marwolaethau 1973|Ben Gurion]]
 
{{Authority control}}