David Davies, Llandinam: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Gyrfa: dim angen dolen o fewn erthygl at ei hun!
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:David Davies Statue.JPG|thumb|right|David Davies (Llandinam)]]
Un o [[Diwydiant|ddiwydiannwyr]] mwyaf llwyddiannus Cymru yn y [[19eg ganrif]] oedd '''David Davies (Llandinam)''' ([[18 Rhagfyr]] [[1818]] - [[20 Gorffennaf]] [[1890]]). Fe'i ganwyd yn [[Llandinam]], [[Sir Drefaldwyn]] a chafodd ei alw'n ''Top Sawyer'' neu ''Davies yr Ocean,'' ar ôl ''The Ocean Coal Company'' yn ogystal â'i llysenw mwy adnabyddus. Roedd yn [[Aelod Seneddol]] dros [[Ceredigion (etholaeth seneddol)|Geredigion]] a [[Aberteifi (etholaeth seneddol)|Aberteifi]] o [[1874]] hyd [[1886]] a chefnogodd sefydliad [[Prifysgol Cymru, Aberystwyth|Coleg Prifysgol]] yn [[Aberystwyth]].
 
==Gyrfa==
Roedd David Davies yn dod o deulu eithaf tlawd ac yn dechrau gwaith fel llifiwr coed ond llwyddodd i wneud digon o arian ar gyfer adeiladu [[rheilffordd]] rhwng [[Llanidloes]] a [[Y Drenewydd|'r Drenewydd]]. Wedyn cafodd tir o'r teulu [[Crawshay (teulu)|Crawshay]] yng [[Y Rhondda|Nghwm Rhondda]] a dechrau [[pwll glo]] yno. Fodd bynnag, nid oedd ei ymdrechion i ddod o hyd i wythïen lo yn llwyddiannus a daeth ei arian i ben wrth chwilio amdani. Cytunodd y gweithwyr i weithio am wythnos arall heb gyflog ac fe ddarganfuwyd glo yn ystod yr wythnos honno. Sylfaenwyd pyllau glo'r [[Pwll glo'r Parc|Parc]], [[Treorci]] a [[Maendy]] gan Davies. Oherwydd hynny, dechreuodd Cwm Rhondda ddatblygu i fod yn faes glo pwysig iawn.
 
Gan fod [[Ardalydd Bute]] yn dal i godi taliadau yn nociau [[Caerdydd]], adeiladodd David Davies dociau glo newydd yn [[Y Barri]], porthladd mwyaf Cymru erbyn [[1914]].
Llinell 28:
[[Categori:Marwolaethau 1890]]
[[Categori:Pobl o Faldwyn]]
 
{{Authority control}}