Decius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cau cromfach
Awdurdod
Llinell 3:
'''Gaius Messius Quintus Traianus Decius''' ([[201]] - [[1 Gorffennaf]] [[251]]) oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[249]] hyd [[251]]. Cymerodd yr enw "Traianus" oherwydd ei edmygedd o'r ymerawdwr [[Trajan]].
 
Ganed Decius yn Budalia gerllaw Sirmium yn [[Pannonia]] Isaf, dinas [[Sremska Mitrovica]] heddiw. Tua [[245]] penodwyd ef yn bennaeth y llengoedd yn ardal [[Afon Donaw]] gan yr ymerawdwr [[Philip yr Arab]]. Yn [[248]] neu [[249]] bu'n ceisio rhoi diwedd ar wrthryfel y llengoedd yn nhaleithiau [[Moesia]] a [[Pannonia]]. Fodd bynnag mynnodd y llengoedd gyhoeddi Decius yn ymerawdwr.
 
Wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr cychwynodd Decius a'i fyddin tua Rhufain. Gorchfygasant Philip gerllaw [[Verona]], a lladdwyd ef yn y frwydr. Cydnabyddwyd Decius yn ymerawdwr gan y [[Senedd Rhufain|Senedd]]. Gwelai Decius fod yr ymerodraeth yn llwgr, a chredai mai un rheswm am hyn oedd fod yr hen werthoedd wedi eu colli. Ceisiodd ail-sefydlu yr hen arferiad o offrymu i'r hynafiaid trwy'r ymerodraeth. Daeth hyn ag ef i wrthdrawiad a'r Cristionogion, oedd yn gwrthod cymeryd rhan, ac oherwydd hynny erlidiwyd hwy gan Decius. Yn 251 cyhoeddoedd ei fab [[Herennius Etruscus]] yn gyd-ymerawdwr.
Llinell 9:
[[Delwedd:AV Antoninian Trajanus Decius.JPG|left|thumb|Traianus Decius]]
 
Bu Decius yn ymladd yn erbyn y [[Gothiaid]] oedd wedi croesi Afon Donaw ac ymosod ar rannau o Moesia a [[Thracia]]. Yr oedd y Gothiaid yn gwarchae dinad [[Nicopolis]] ar lan Afon Donaw. Pan glywsant fod byddin Rhufain yn dynesu, croesasant y mynyddoedd i ymosod ar Filiopolis. Dilynodd Decius hwy, ond wedi iddo golli brwydr ger Beroë llwyddodd y Gothiaid i gipio Filiopolis.
 
Yr oedd y Gothiaid wedi colli llawer o'u milwyr wrth gipio Filiopolis, a chynigiasant adael y ddinas heb gymeryd carcharorion nac ysbail os gadawai'r Rhufeiniaid lonydd iddynt. Fodd bynnag yr oedd Decius wedi llwyddo i'w hamgylchynu, a gwrthododd y cynnig. Ym mrwydr Attrio y Gothiaid a gafodd y fuddugoliaeth, a lladdwyd yr ymerawdwr a'i fab ar faes y gad. Enwodd y Senedd yn Rhufain fab ieuengaf Decius, [[Hostilian]], fel ymerawdwr, ond cyhoeddodd llengoedd Afon Donaw [[Trebonianus Gallus]] yn ymerawdwr.
Llinell 23:
[[Categori:Marwolaethau 251]]
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
 
{{Authority control}}