Demosthenes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 50 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q117253 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Demosthenes orator Louvre.jpg|bawd|250px|Cerflun o Demosthenes yn y [[Louvre]], [[Paris]].]]
 
Areithydd a gwladweinydd [[Athen]]aidd oedd '''Demosthenes''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: '''Δημοσθένης''', Dēmosthénēs ([[384 CC]] - [[322 CC]]).
 
Astudiodd Demosthenes gelfyddyd [[rhethreg]] trwy ddysgu o areithiau enwogion y gorffennol. Traddododd ei areithiau cyntaf mewn achosion cyfreithiol pan nad oedd ond ugain oed. Am gyfnod, bu'n ennill bywoliaeth trwy ysgrifennu areithiau i eraill ac fel cyfreithiwr.
 
Yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd areithiau, datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a dechreuodd draddodi areithiau gwleidyddol yn [[354 CC]]. Daeth y ffigwr amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus Athen, ac roedd yn flaenllaw ymysg y rhai oedd yn gwrthwynebu dylanwad cynyddol [[Philip II, brenin Macedon]] dros [[Gwlad Groeg|Wlad Groeg]]. Treuliodd lawer o amser yn ceisio adeiladu cynghrair i wrthwynebu Philip.
 
Wedi marwolaeth Philip, roedd Demosthenes yn un o arweinwyr y gwrthryfel yn erbyn mab Philip, [[Alecsander Fawr]]. Methodd y gwrthryfel, a mynnodd Alecsander fod Demosthenes yn cael ei alltudio o Athen. Wedi marwolaeth Alecsander, ceisiodd Demosthenes ddechrau gwrthryfel arall yn erbyn [[Macedon]], ond methodd y gwrthryfel eto a gyrrodd [[Antipater]], olynydd Alecsander yng Ngroeg, ei wŷr i chwilio amdano. Lladdodd Demosthenes ei hun rhag cael ei gymeryd i'r ddalfa.
Llinell 16:
[[Categori:Marwolaethau 322 CC]]
[[Categori:Atheniaid]]
 
{{Authority control}}