Dmitri Mendeleev: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Awdurdod
Llinell 19:
Cafodd Mendeleev ei eni yn Tobolsk, Siberia, i Ivan Pavlovich Mendeleev a Maria Dmitrievna Mendeleeva (nee Kornilieva). Nid oes sicrwydd, ond mae'n debygol mai Mendeleev oedd y 13<sup>eg</sup> o 17 o blant. Roedd ei rieni yn perchen ar ffatri cynhyrchu gwydr, ac wrth weithio yna magwyd ei ddiddordeb cynnar yng nghemeg, ac yn 13 dechreuodd ef fynychu'r ''gymnasium'' yn Tobolsk.
 
Collodd ef ei dad yn gynnar, ac yn 1849, symudodd y teulu i St Petersberg, lle ddechreuodd y Mendeleev ifanc astudio yn y brif athrofa bedagogaidd. Ar ôl iddo ennill ei radd, dioddefodd o salwch arw, ac fe symudodd i'r [[Crimea]] i weithio fel athro gwyddoniaeth yn y ''gymnasium'' lleol. Yn 1857, ar ôl iddo wella, cafodd gyfle i ddychwelyd i St Petersberg, cyn treulio cyfnod yn [[yr Almaen]] ym mhrifysgol [[Heidelberg]].
 
Yn 1862, fe briododd Feozva Nikitichna Leshcheva, cyn ennill swydd fel athro prifysgol yn athrofa dechnolegol a phrifysgol St Petersburg. Erbyn 1871, roedd ei waith wedi llwyddo i wneud St Petersberg yn ganolfan fyd-enwog am ymchwil [[cemeg]]ol. Dechreuodd ei obsesiwn gyda Anna Ivanovna Popova yn 1876, ac erbyn 1881 roedd e wedi gofyn iddi ei briodi. Priododd y ddau mis cyn i ysgariad Mendeleev o'i wraig gyntaf ddod yn swyddogol. Roedd ei ddwywreigiaeth yn sgandal fawr, ac mae'n debyg mai hyn achosodd ei fethiant i gael brodoriaeth yn academi gwyddonol Rwsia, er iddo fod yn wyddonydd byd-enwog.
 
Cafodd Mendeleev fab a merch o'i briodas gyntaf, sef Volodya ac Olga. Daeth ei ferch o'i ail briodas, Lyubov, yn wraig i'r cerddor [[Aleksander Blok]], gydag Anna hefyd yn rhoi mab a phâr o efeilliaid iddo.
 
Ar ôl bron deg ar hugain mlynedd yn St Petersberg, wnaeth Mendeleev ymddiswyddo yn 1890. Yn 1893 cafodd ei benodi'n bennaeth ar yr swyddfa bwyso a mesur. Yno gwnaeth lawer o waith ar gynhwysion olew a arweiniodd at sefydliad y burfa olew gyntaf yn Rwsia. Fe fu marw Mendeleev o'r [[ffliw]] yn 1907 yn St Petersburg. Cafodd yr elfen [[Mendeleefiwm]] (rhif 101) a crater Mendeleev ar y [[lleuad]] eu henwi ar ei ôl.
Llinell 40:
<li>Dylid disgwyl i elfennau newydd gael eu darganfod i lenwi bylchau a adawyd yn y tabl, er enghraifft elfennau sydd yn aelodau o'r un grwpiau â silicon ac alwminiwm. Galwodd Mendeleev y rhain yn eka-silicon ac eka-alwminiwm.</li>
<li>Bydd rhaid cyfnewid lleoliadau rhai elfennau ar sail eu priodweddau cemegol, ac awgrymodd fod y mas atomig yn anghywir. Heddiw rydym yn ymwybodol mai rhif atomig ac nid mas atomig sy'n rheoli trefn yr elfennau.</li>
<li>Gellid rhagfynegi rhai priodweddau elfen gemegol o'i lleoliad yn y tabl cyfnodol.</li></ol>
 
Cyflwynodd Mendeleev ei syniadau i Gymdeithas Gemegol Rwsia ar 6 Mawrth, 1869, ychydig fisoedd cyn i Meyer gyflwyno tabl tebyg iawn. Rhagfynegiadau Mendeleev o briodweddau [[eka-silicon]] ([[germaniwm]]), [[eka-alwminiwm]] ([[galiwm]]) ac [[eka-boron]] ([[scandiwm]]) sy'n gwneud ei waith yn allweddol i ddatblygiad cemeg.
Llinell 74:
[[Categori:Marwolaethau 1907]]
[[Categori:Pobl o Oblast Tyumen]]
 
{{Authority control}}