Ednyfed Fychan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 5:
Dywedir i Ednyfed ennill ei fri trwy dorri pennau tri [[Saeson|Sais]] mewn brwydr rhwng lluoedd Gwynedd a byddin [[Ranulf, Iarll Caer]]. Mewn canlyniad dangosai dri phen ar ei arfau a ddaeth yn arfau etifeddol [[Tuduriaid Môn]].
 
Yn [[1215]] cymerodd drosodd yn lle [[Gwyn ab Ednywain]] fel distain Gwynedd. Roedd hyn yn un o swyddi pwysicaf y llys a gwasanethai Ednyfed fel prif gynghorydd a chennad Llywelyn gartref ac oddi cartref. Cymerodd ran yn y trafodaethau a arweiniodd at arwyddu [[Cytundeb Heddwch Caerwrangon]] yn [[1218]] a bu'n gynrychiolydd i Lywelyn Fawr mewn cyfarfod â [[Harri III o Loegr]] yn [[1232]].
 
Roedd gan Ednyfed ystadau yn Rhos Fyneich (ger [[Bae Colwyn]] heddiw) a [[Plasdy|phlasdy]] gerllaw yn [[Llys Euryn]] yn [[Llandrillo-yn-Rhos]]. Roedd ganddo dir yn [[De Cymru|Ne Cymru]] yn ogystal. Mae hi bron yn sicr fod ganddo dir ar [[Ynys Môn]] hefyd gan fod [[Penmynydd]] ar yr ynys honno yn bencadlys i'r teulu am ganrifoedd. Priododd ddwywaith, yn gyntaf â [[Tangwystl Goch]] ferch [[Llywarch ap Brân]], ac yna â [[Gwenllian ferch Rhys ap Gruffudd|Gwenllian]] ferch [[Rhys ap Gruffudd]] o [[Teyrnas Deheubarth|Ddeheubarth]].
 
Yn ôl traddodiad aeth Ednyfed ar [[Pererindota|bererindod]] i'r [[Tir Sanctaidd]] yn [[1235]]; bu farw ei ail wraig Gwenllian y flwyddyn ganlynol. Ar ôl marwolaeth Llywelyn Fawr yn [[1240]] parheai fel distain yng ngwasanaeth Dafydd ap Llywelyn, hyd ei farwolaeth yn [[1246]].
 
==Disgynyddion==
Llinell 35:
[[Categori:Teyrnas Gwynedd]]
[[Categori:Tuduriaid Môn]]
 
{{Authority control}}