Euddogwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 2:
 
==Hanes a thraddodiad==
Ceir buchedd iddo, y ''Vita Beati Oudocei'', yn [[Llyfr Llandaf]], lle dywedir ei fod yn fab i Buddig, tywysog o [[Llydaw|Lydaw]], ac Anauued, chwaer sant [[Teilo]].<ref>J. Rhys a J. Gwenogvryn Evans (gol.), ''The Book of Llandâv'' (Rhydychen, 1893).</ref> Addysgwyd ef gan Teilo ac fe'i dilynodd fel esgob. Dywedir iddo gydnabod uchafiaeth [[Archesgob Caergaint]] a mynd ar [[Pererindod|bererindod]] i [[Rhufain|Rufain]], ond mae'n anhebygol iawn fod yr honiad cyntaf yn wir a gellir derbyn ei fod yn tarddu o awydd [[Esgobaeth Llandaf|esgobaeth newydd Llandaf]], a sefydlwyd gan y [[Y Normaniaid yng Nghymru|Normaniaid]], i bwysleisio awdurdod Caergrawnt (a Rhufain) ar draul [[Esgobaeth Tyddewi]] a'r Eglwys Gymreig.
 
Barn [[G.H. Doble]] oedd mai esgob oedd Euddogwy, ac nad oedd yn cael ei ystyried yn sant yn y cyfnod cynnar. Dim ond wedi i'w fuchedd gael ei ysgrifennu yn [[Llandaf]] yn y cyfnod Normanaidd y dechreuwyd ei ystyried fel sant. Mae'n un o'r tri sant y cysegrwyd [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]] iddynt, ond credir mai person gwahanol a roddodd ei enw i eglwys [[Llaneuddogwy]] ([[Llandogo]]) yng [[Gwent|Ngwent]], ac os felly nid oes unrhyw eglwys arall wedi ei chysegru iddo.<ref>G. H. Doble. (1971). ''Lives of the Welsh Saints'', gol. D. Simon Evans.</ref>
Llinell 19:
[[Categori:Seintiau Cymru]]
[[Categori:Teyrnas Gwent]]
 
{{Authority control}}