Fernando Torres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 69 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q42731 (translate me)
Awdurdod
Llinell 31:
Arwyddodd gontract proffesiynol efo Atlético ym 1999, a dechreuodd ymarfer efo'r tîm cyntaf ar gyfer y flwyddyn [[2000]]-[[2001]]. Fodd bynnag, ni ddechreuodd y tymor yn dda iddo wedi iddo gael anaf i'w goes, ac ni ymarferodd tan fis Rhagfyr. Wedi gwella o'r anaf, ymddangosodd am y tro cyntaf i Atlético ym mis Mai 2001 yn erbyn [[CD Leganés]] yn y [[Vicente Calderon]]. Wythnos yn ddiweddarach, sgoriodd ei gôl gyntaf dros y clwb yn erbyn [[Albacete]], ond yn anffodus ni enillodd Atlético ddyrchafiad i La Liga. Yn [[2001]]-[[2002]], enillodd Atlético ddyrchafiad, gyda Torres yn sgorio chwe gwaith mewn 36 ymddangosiad. Roedd flwyddyn gyntaf Torres yn La Liga yn well, fodd bynnag, wrth sgorio 13 gwaith mewn 29 gêm. Yn ei ail flwyddyn, daeth yn gapten ieuengaf Atlético erioed, yn 19 oed. Sgoriodd 19 gwaith mewn 35 gêm y flwyddyn honno, gydag Atlético y gorffen yn 7fed, ac ymddangos yng [[Cwpan Intertoto|Nghwpan Intertoto]] y flwyddyn wedyn. Chwaraeodd am y tro cyntaf mewn cystadleuaeth yn Ewrop yn erbyn [[OBK Beograd]], gan sgorio dwywaith dros y ddwy gêm. Trechwyd Atlético yn y rownd nesaf gan [[Villarreal CF|Villarreal]]. Roedd yna straeon bod diddordeb yn ei brynu gan [[Chelsea F.C.|Chelsea]], pencampwyr yr [[Uwchgynghrair Lloegr]], ond dywedodd cadeirydd Atlético bod 'dim siawns' o'i arwyddo. Fodd bynnag, ym mis Ionawr 2006, dywedodd y cadeirydd bod y clwb yn barod i wrando ar gynigion amdano, a honnodd Torres bod [[Newcastle United F.C.|Newcastle United]] wedi gwneud cynnig amdano.
 
Ni ddaeth unrhyw beth o hyn, ac fe aeth Torres ymlaen i sgorio 14 gôl yn y tymor 2006-07. Yn haf 2007, roedd y cyfryngau yn Lloegr yn dweud mai Torres oedd prif darged [[Rafael Benítez]], rheolwr Lerpwl. Ychydig diweddarach, dywedwyd bod Atlético a Lerpwl wedi dod i gytundeb am bris Torres, sef tua £20 miliwn efo [[Luis Garcìa]] yn symud y ffordd arall. Ar 3 Gorffennaf, pasiodd Torres ei brawf meddygol, ac arwyddodd gytundeb am chwe blynedd. Ffarweliodd â chefnogwyr Atlético ar y 4 Gorffennaf, cyn hedfan i Loegr i gael ei gyflwyno fel chwaraewr Lerpwl.
 
===Lerpwl===
Llinell 73:
[[Categori:Genedigaethau 1984]]
[[Categori:Pobl o Fuenlabrada]]
 
{{Authority control}}