Galba: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q1414 (translate me)
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:017 Galba.jpg|thumb|right|Delwedd Galba ar ddarn o arian (As)]]
 
'''Lucius Livius Ocella Servius Sulpicius Galba''' ([[24 Rhagfyr]] [[3 CC]] - [[15 Ionawr]] [[69]] OC) oedd chweched ymerawdwr [[Yr Ymerodraeth Rufeinig|Rhufain]]. Yr oedd yn un o bedwar ymerawdwr yn ystod [[Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr]].
 
Ganed Galba yn [[Terracina|Tarracina]], o deulu bonheddig. Yn ystod teyrnasiad Caligula daeth yn bennaeth ar fyddin [[Germania Superior]]. Cymerodd ran yng ngoresgyniad [[Prydain]] dan [[Claudius]]. Dan yr ymerawdwr [[Nero]] daeth yn [[Rhaglaw]] ar dalaith [[Hispania Tarraconensis]] yn Sbaen. Pan laddodd Nero ei hun yn [[68]] wedi gwrthryfel yn ei erbyn, penderfynodd y [[Senedd Rhufain|Senedd]] alw Galba i fod yn ymerawdwr.
 
Yr oedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Yr oedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Yr oedd Marcus Salvius [[Otho]] wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi [[Calpurnius Piso|Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus]]. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymeradwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef gan Otho.
 
{| border=2 align="center" cellpadding=5
Llinell 13:
|width="30%" align="center"|'''Olynydd :<br />'''[[Otho]]
|}
 
{{eginyn Rhufain}}
 
[[Categori:Genedigaethau 3 CC]]
[[Categori:Marwolaethau 69]]
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
 
 
{{eginyn Rhufain}}
 
{{Authority control}}