Geraint Griffiths: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q13128625
Awdurdod
Llinell 23:
Mae '''Geraint Griffiths''' (ganwyd [[1949]]) yn ganwr adnabyddus yng [[Cymru|Nghymru]]. Mae hefyd yn gyfansoddwr ac yn actor. Fe'i magwyd ym [[Pontrhydyfen|Mhontrhydyfen]], [[Dyffryn Afan]], lle mynychodd [[Ysgol Gymraeg Pontrhydyfen]], ac [[Ysgol Ramadeg Glan Afan]], [[Port Talbot]]. Yn ystod ei amser yn yr ysgol uwchradd ffurfiodd y grŵp 'The Undecided' a 'The Dream Time People'. Astudiodd nyrsio yn [[Ysbyty Rhyd Lafar]] ger [[Caerdydd]], [[Ysbyty Glan Gwili]], [[Caerfyrddin]], ac Ysbytu Saint George yn [[Llundain]].
 
Tra yn Llundain fu'n gerddor proffesiynol gyda'r bandiau Limbotrol, Boots a Butty. Hefyd bu'n teithio 'nôl yn aml i chwarae gitâr flaen ar lwyfan gyda [[Edward H. Dafis]]. Bu hefyd yn chwarae gitâr ac yn canu ar record hir cyntaf Edward H sef ''Hen Ffordd Gymreig o Fyw'' a'r drydedd sef ''Sneb yn Becso Dam''. Bu'n gerddor sesiwn ar recordiau [[Hergest]], Delwyn Sion a'r recordiad o'r opera roc ''Nia Ben Aur''. Daeth adref i Gymru i ymuno â'r band [[Cymraeg]], [[Injaroc]]. Bu'r grŵp gyda'u gilydd am naw mis. Cyhoeddwyd un record hir - ''Halen y Ddaear''. Ar ôl chwalu Injaroc ffurfiodd Geraint y grwp roc [[Eliffant (band)|Eliffant]] a chyhoeddi dwy record hir gyda [[Cwmni Recordiau Sain]]: ''M.O.M.'' a ''Gwin y Gwan'', a sengl ar label y band, Llef.
 
Ym [[1984]] enillodd Geraint [[Cân i Gymru]] wrth ganu ''Y Cwm'' gan [[Huw Chiswell]]. Yn sgîl hyn cafodd wahoddiad i ganu ar recordiad modern o'r Messiah, sef ''Teilwng Yw'r Oen''. Gadawodd nyrsio i ddilyn gyrfa fel cyflwynydd [[teledu]], actor a cherddor. Cyhoeddwyd tair record hir a un record sengl o'i waith ar label Sain. ''Madras'' (1984), ''Rebel'' (1986), ''Ararat'' (1988) a'r sengl ''Breuddwyd (Fel Aderyn)'' (1985).
 
Bu'n cyflwyno'r rhaglen blant [[Ffalabalam]] am bum mlynedd tan orffen y gyfres. ''[[Y Cloc]]'' (1986) oedd ei ffilm gyntaf gyda'r cyfarwyddwr [[Endaf Emlyn]]. Cafodd gyfres deledu ei hun, ''Nôl Ar Y Stryd'' (1986), ar [[S4C]].
Llinell 32:
 
Ar ôl recordio am flynyddoedd gyda Chwmni Recordiau Sain, fe ffurfiodd Geraint label recordio ei hun sef [[Diwedd y Gwt]]. Mae wedi rhyddhau chwech CD ar y label yma: ''Donegal'' (1992), ''Hewl'' (1999),
''Glastir'' (2001) ''Miya-Jima'' (2005), ''Clwb Dydd Sadwrn'' (2007), ''Havana'' (2007).
 
Yn [[2005]] cyhoeddodd [[Gwasg Gomer]] hanes Geraint yn y llyfr ''Hewl'' gan Geraint Davies a John Davies. Mae hefyd yn perfformio yn achlysurol odan yr enw ''Geraint Griffiths a'r Gwehyddion'' gyda
Llinell 72:
[[Categori:Cyfansoddwyr Cymreig|Griffiths, Geraint]]
[[Categori:Genedigaethau 1949|Griffiths, Geraint]]
 
{{Authority control}}