Geronimo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Racconish (sgwrs | cyfraniadau)
img
Awdurdod
Llinell 1:
[[File:Geronimo (Goyathlay), a Chiricahua Apache, full-length, kneeling with rifle, 1887 - NARA - 530880.jpg|bawd|200px|Geronimo.]]
 
Arweinydd milwrol yr [[Apache]] [[Chiricahua]] oedd '''Geronimo''' ([[Chiricahua (iaith)|Chiricahua]]: '''Goyaałé''', sillefir weithiau fel '''Goyathlay''' neu '''Goyahkla''') (16 Mehefin 1829 - 17 Chwefror 1909).
 
==Hanes ei fywyd==
Ganed ef yn aelod o gangen Bedonkohe o'r Apache, ger Turkey Creek, afon sy’n llifo i [[Afon Gila]] yn yr hyn sy’n awr yn dalaith [[New Mexico]] o’r [[Unol Daleithiau]], ond a oedd bryd hynny yn swyddogol yn rhan o [[Mecsico|Fecsico]]. Priododd ferch o’r Chiricauhua, a chawsant dri o blant. Ar [[5 Mawrth]] [[1851]], ymosododd 400 o filwyr o Sonora dan y Cyrnol Jose Maria Carrasco ar wersyll Geronimo gerllaw Janos pan oedd y dynion i ffwrdd yn masnachu. Lladdwyd ei wraig, Alope, ei blant a’i fam. Gyrroedd ei bennaeth, [[Mangas Coloradas]], ef i ymuno a rhyfelwyr [[Cochise]] i geisio dial. Cafodd yr enw “Geronimo”, pan ymosododd ar filwyr Mecsico nes iddynt alw ar [[Sant Sierom]] am gymorth.
 
Nid oedd Geronimo yn bennaeth, ond daeth yn arweinydd milwrol pwysig iawn. Priododd eto nifer o weithiau, gan gael o leiaf dri plentyn. Ymladdodd yn erbyn México a’r Unol Daleithiau gyda chryn lwyddiant o 1858 hyd 1886, er bod eu milwyr yn llawer mwy niferus na’i ryfelwyr ef. Tua diwedd ei yrfa fel arweinydd, nid oedd ganddo ond 38 o wyr, gwragedd a phant, ond llwyddasant i osgoi cael eu dal gan 5,000 o filwyr yr Unol Daleithiau (chwarter y fyddin ar y pryd) ac unedau o fyddin México am flwyddyn. Ar [[4 Medi]] [[1886]], ildiodd i’r cadfridog [[Nelson A. Miles]] yn [[Skeleton Canyon]], [[Arizona]].
 
Gyrrwyd Geronimo a’r rhyfelwyr eraill i Fort Pickens, [[Florida]], a’i deulu i Fort Marion. Ail-unwyd hwy ym mis Mai 1887, pan drosglwyddwyd hwy i Mount Vernon, [[Alabama]]. Ym 1894, symudwyd hwy i Fort Sill, [[Oklahoma]]. Daeth Geronimo yn enwog, gan ymddangos yn [[Ffair y Byd 1904]] yn [[St. Louis, Missouri|St. Louis]], a gwerthu lluniau ohono ei hun. Bu farw yn Fort Sill yn 1909 a claddwyd ef yno.
 
Yn 1905, cytunodd Geronimo i adrodd ei hanes i S. M. Barrett, a’i cyhoeddodd fel llyfr. Cyhoeddwyd ail-argraffiad gan Frederick Turner yn 1970.
Llinell 18:
== Ffuglen ==
* [[Eirug Wyn]], ''[[I Ble'r Aeth Haul y Bore?]]''
 
 
[[Categori:Apache]]
Llinell 25 ⟶ 24:
[[Categori:Hanes yr Unol Daleithiau]]
[[Categori:Pobl o New Mexico]]
 
{{Authority control}}