Gerry Adams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 30 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q76139 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
Gwleidydd [[Gwyddelod|Gwyddelig]] a llywydd plaid [[Sinn Féin]] yw '''Gerard "Gerry" Adams''' ([[Gwyddeleg]]: ''Gearóid Mac Ádhaimh'') (ganed [[6 Hydref]], [[1948]]).
 
Ganed Gerry Adams yn y [[Falls Road]] yng ngorllewin [[Belffast]], i deulu o [[cenedlaetholdeb Gwyddelig|genedlaetholwyr Gwyddelig]]. Wedi gadael yr ysgol, ymunodd â Sinn Féin a [[Fianna Éireann]] yn 1964. Dechreuodd y llywodraeth Brydeinig garcharu cenedlaetholwyr Gwyddelig heb achos llys yn Awst [[1971]], ac ym mis Mawrth [[1972]] carcharwyd Adams. Gollyngwyd ef yn rhydd ym mis Mehefin i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfrinachol yn Llundain, ond ym mis Gorffennaf [[1973]] carcharwyd ef eto yn [[Maze (carchar)|Long Kesh]].
 
Yn [[1983]] etholwyd ef yn llywydd Sinn Féin, ac fe'i etholwyd yn [[Aelod Seneddol]] dros y blaid, y cyntaf ers y 1950au. Yn unol â pholisi ei blaid, ni chymerodd ei sedd yn San Steffan. Ar [[14 Mawrth]] [[1984]], clwyfwyd ef yn ddifrifol pan geisiodd rhai o aelodau'r [[UFF]] ei ladd. Collodd ei sedd yn San Steffan i [[Joe Hendron]] o'r [[SDLP]] yn etholiad [[1992]], ond enillodd hi yn ôl yn [[1997]].
 
Yn wahanol i arweinwyr blaenorol Sinn Féin, roedd Adams yn barod i roi blaenoriaeth i ymgyrchoedd gwleidyddol ac i drafod â phleidiau eraill. Ar ddechrau’r 1990au bu trafodaethau rhwng Gerry Adams a [[John Hume]], arweinydd y [[Social Democratic and Labour Party]] (SDLP). Daeth arweinydd newydd yr UUP, [[David Trimble]], a’i blaid ef i mewn i drafodaethau rhwng y pleidiau, ac ar [[10 Ebrill]] [[1998]], arwyddwyd [[Cytundeb Belffast]] rhwng wyth plaid, ond heb gynnwys plaid Ian Paisley, y [[Democratic Unionist Party]] (DUP).
 
Yn etholiad [[Cynulliad Gogledd Iwerddon]] ym mis Tachwedd [[2003]], o'r pleidiau cenedlaethol, Sinn Féin a enillodd y nifer fwyaf o seddi, gyda’r SDLP yn colli cefnogaeth. Gwelwyd yr un patrwm yn [[Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig 2005]]. Ym mis Hydref, [[2006]], wedi trafodaethau yn [[St. Andrews]] yn [[yr Alban]], cafwyd cytundeb rhwng y pleidiau, yn cynnwys y DUP. Ar [[8 Mai]] [[2007]] daeth [[Ian Paisley]], arweinydd y DUP, yn Brif Weinidog Gogledd Iwerddon a [[Martin McGuinness]] o [[Sinn Féin]] yn Ddirprwy Brif Weinidog.
 
== Cyhoeddiadau ==
Llinell 45:
[[Categori:Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon]]
[[Categori:Llenorion Gwyddelig]]
 
{{Authority control}}