Gilbert Hunter Doble: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B 1 cysylltiadau rhyngwici a ddarperir bellach gan Wikidata ynn d:q13635177
Awdurdod
Llinell 1:
[[Image:Wendron Parish Church.JPG|thumb|de|Eglwys Wendron, lle bu Doble yn ficer.]]
 
Clerigwr Anglicanaidd o [[Cernyw|Gernyw]] oedd '''Gilbert Hunter Doble''' ([[26 Tachwedd]] [[1880]] – [[15 Ebrill]] [[1945]]). Mae'n fwyaf adnabyddus am ei waith ysgolheigaidd ar saint Cernyw, [[Cymru]] a [[Llydaw]].
 
Ganed ef yn [[Penzance]], Cernyw, ac addysgwyd ef yng [[Coleg Exeter, Rhydychen|Ngholeg Exeter, Rhydychen]] a Choleg Diwinyddol [[Ely]]. Ordeiniwyd ef yn [[1907]]. Bu'n gurad cynorthwyol mewn nifer o leoedd yng Nghernyw a Lloegr, yn gurad [[Redruth]] ac yna yn ficer [[Wendron]] yng Nghernyw. Yn [[1935]], gwnaed ef yn Ganon er anrhydedd yn Eglwys Gadeiriol [[Truro]].
 
Ysgrifennodd lawer ar seintiau Cernyw, Cymru a LLydaw, gan ganolbwyntio ar ddadansoddi'r bucheddau o'r Canol Oesoedd. Cyhoeddoedd astudiaethau ar lawer o saint, ar wahan yn y lle cyntaf. Ail-gyhoeddwyd ei waith ar nifer o saint Cymreig, [[Dyfrig]], [[Illtud]], [[Paulinus Aurelianus]], [[Teilo]] ac [[Oudoceus]], yn gyfrol wedi ei golygu gan [[D. Simon Evans]] dan y teitl ''Lives of the Welsh Saints'' (1971).
Llinell 9:
[[Categori:Genedigaethau 1880|Doble, GH]]
[[Categori:Marwolaethau 1945|Doble, GH]]
 
{{Authority control}}