Giotto: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 67 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q7814 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
Arlunydd a phensaer [[Yr Eidal|Eidalaidd]] oedd '''Giotto''', enw llaw '''Giotto di Bondone''' (tua [[1267]] - [[8 Ionawr]] [[1337]]). Ystyrir ef y cyntaf o arlunwyr mawr y [[Dadeni Eidalaidd]].
 
Credir iddo gael ei eni mewn ffermdy yn Colle di Romagnano neu Romignano ger [[Fflorens]], yn fab i ŵr o'r enw Bondone, ond mae llawer o ansicrwydd ynghylch ei fywyd.
 
Yn ei lyfr ''[[Bywydau'r Arlunwyr]]'', mae [[Giorgio Vasari]] yn dweud ei fod yn fugail pan yn fachgen, ac i'r arlunydd [[Cimabue]] ei weld yn tynnu lluniau ei ddefaid ar graig, ac adnabod ei dalent a'i gymeryd fel prentis. Tua 1280, dilynodd Giotto ei athro Cimabue i Rufain, lle'r oedd ysgol enwog o arlunwyr ffresco, yn cynnwys [[Pietro Cavallini]]. Mae'n debyg i Giotto fynd gyda Cimabue i [[Assisi]] a gweithio ar y darluniau ffreco ym Masilica Sant Ffransis yno, ond nid oes prawf o hyn.
 
Campwaith Giotto yn ôl y farn gyffredinol yw'r gyfres o luniau [[ffresco]] yn y ''[[Cappella degli Scrovegni]]'' (Capel Scrovegni) yn [[Padua]], a orffenwyd tua [[1305]]. Mae'r rhain yn dangos golygfeydd a fywyd y Forwyn Fair a dioddefaint Crist.
 
Rhwng 1306 a 1311 roedd Giotto yn Assisi, lle ceir nifer o luniau ffreco o'i waith o'r cyfnod yma. Dychwelodd i Fflorens yn 1311, ac roedd yn Rhufain yn 1313. Yn 1328, gwahoddodd [[Robert o Anjou]] ef i [[Napoli]], lle arhosodd hyd 1333. Yn 1334 penodwyd ef yn brif bensaer Eglwys Gadeiriol Fflorens.
 
Bu farw yn 1337, ac yn ôl Vasari claddwyd ef yn Eglwys Gadeiriol Fflorens.
 
== Galeri ==
Llinell 25:
[[Categori:Marwolaethau 1337]]
[[Categori:Arlunwyr Eidalaidd]]
 
{{Authority control}}