Gratianus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 40 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q189108 (translate me)
Awdurdod
Llinell 6:
 
Ar y [[4 Awst]] [[367]] cyhoeddwyd ef yn "Augustus" gan ei dad. Ar farwolaeth ei dad ar [[17 Tachwedd]] 375, cyhoeddodd y llengoedd yn Pannonnia ei hanner brawd iau, [[Valentinian II]], yn ymerawdwr, er nad oedd ond baban. Cymerodd
Gratianus daleithiau [[Gâl]] a rhoddodd [[Italia (talaith Rufeinig)|Italia]], [[Iliria]] ac [[Africa (talaith Rufeinig)|Affrica]] i Valentinian a'i fam i'w rheoli o [[Milan]]. Mewn enw yn unig oedd hyn, mewn gwirionedd Gratianus oedd y meistr.
 
Rheolid yr ymerodraeth yn y dwyrain gan ei ewythr [[Valens]]. Ym mis Mai [[378]] enillodd Gratianus fuddugoliaeth fawr dros lwyth [[Germaniaid|Almaenaidd]] yn mrwydr Argentovaria, gerllaw [[Colmar]] heddiw. Yr un flwyddyn lladdwyd Valens ym mrwydr [[Brwydr Adrianople (378)|Mrwydr Adrianopolis]] ar [[9 Awst]]. Gadwawodd hyn yr ymerodraeth i gyd yn nwylo Gratianus. Penododd y cadfridog Hispanaidd [[Theodosius I|Flavius Theodosius]] fel ymerawdwr yn y dwyrain.
 
Am rai blynyddoedd teyrnasodd Gratianus yn llwyddiannus ond yn raddol aeth i ddiogi a rhoi ei egni i ddadleuon crefyddol a gwleidyddol. Daeth y cadfridog [[Ffranciaid|Ffrancaidd]] [[Merobaudes]] ac esgob Milan [[Ambrosius]] i gael dylanwad mawr drosto. Gwrthododd Gratianus deitlau paganaidd traddodiadol ymerawdwr Rhufain megis ''Pontifex Maximus'' a cafodd wared ar Allor Buddugoliaeth o [[Senedd Rhufain]]. Yn ystod ei deyrnasiad daeth [[Cristionogaeth]] yn brif grefydd pob rhan o'r ymerodraeth, a gwnaeth seremoniau paganaidd yn anghyfreithlon yn Rhufain.
 
Daeth Gratianus yn amhoblogaidd ymysg y fyddin trwy gymeryd corff o [[Alaniaid]] i'w wasanaeth personol ac ymddangos ei hun mewn gwisg rhyfelwr. Gwrthryfelodd y cadfridog Magnus Maximus ([[Macsen Wledig]]) a daeth a byddin fawr o Brydain i Gâl. Roedd Gratianus yn ei ddisgwyl ym [[Paris|Mharis]], ond bradychwyd ef gan lywodraethwr y ddinas a'i ladd ar y [[25 Awst]] 383.
Llinell 19:
 
[[Categori:Ymerodron Rhufeinig]]
 
{{Authority control}}