Heraclius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 56 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q41852 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
[[Yr Ymerodraeth Fysantaidd|Ymerawdwr Bysantaidd]] rhwng [[610]] a [[641]] oedd '''Heraclius''', [[Groeg (iaith)|Groeg]]: Ηράκλειος, '''Hērakleios''' (c. [[575]] – [[11 Chwefror]], [[641]].
 
Roedd ei dad, hefyd o'r enw Heraclius, wedi bod yn un o gadfridogion amlycaf yr ymerawdwr [[Mauricius]], a daeth yn ''exarch'' talaith Affrica. Yn [[608]] dechreuodd y ddau Heraclius wrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr [[Phocas]], ac yn [[610]] daeth Heraclius y mab yn ymerawdwr, gan ladd Phocas a'i ddwylo ei hun.
 
Ymosododd y Persiaid ar [[Asia Leiaf]], gan gipio [[Damascus]] a [[Jeriwsalem]] a dwyn [[y Wir Groes]] i [[Ctesiphon]]. Llwyddodd Heraclius i ddinistrio'r fyddin Bersaidd ger [[Nineveh]] yn [[627]], a dychwelyd y Wir Groes i Jeriwsalem yn [[629]]. Roedd yr ymladd wedi gwanhau yr ymerodraeth Fysantaidd a'r Persiaid fel ei gilydd, gan ei gwneud yn anodd iddynt wrthsefyll y byddinoedd [[Arab]]aidd a ymosododd arnynt yn y blynyddoedd nesaf. Gorchfygwyd y Bysantiaid gan yr Arabiaid ym Mrwydr Yarmuk yn [[636]], tra syrthiodd Ctesiphon iddynt yn [[634]].
 
Heraclius oedd yr ymerawdwr cyntaf i ddefnyddio'r teitl Groeg ''[[Basileus]]'' (Βασιλεύς) yn lle'r teirl [[Lladin]] traddodiadol ''Augustus'', a dechreuwyd defnyddio Groeg yn lle Lladin mewn dogfennau swyddogol. Roedd llawer o ddadleuon diwinyddol rhwng y [[monoffisiaeth|monoffisiaid]] a'r [[Chalcedoniaid]], ac awgrymodd Heraclius gyfaddawd, [[monotheletiaeth]], a gyhoeddwyd mewn dogfen a roddwyd ar narthex eglwys Hagia Sophia yn 638. Erbyn hyn roedd yr Arabiaid wedi cipio Syria a Palesteina, a syrthiodd [[yr Aifft]] iddynt yn 642.
 
Llwyddodd Heraclius i sefydlu brenhinllin yr Heracliaid, a barhaodd hyd 711.
Llinell 14:
[[Categori:Genedigaethau 575]]
[[Categori:Marwolaethau 641]]
 
{{Authority control}}