Iago ab Idwal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
'''Iago ab Idwal''' (teyrnasodd [[950]] - [[979]]), Brenin [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]] ac efallai [[Teyrnas Powys|Powys]].
 
==Bywgraffiad==
Yr oedd Iago yn fab i [[Idwal Foel]], ac ar farwolaeth ei dad mewn brwydr yn [[942]] gellid disgwyl y byddai wedi etifeddu teyrnas Gwynedd gyda'i frawd [[Ieuaf ab Idwal]]. Fodd bynnag achubodd [[Hywel Dda]] Brenin [[Deheubarth]] y cyfle i ymosod ar Wynedd a gyrru'r tywysogion ieuanc ar ffo.<ref>[[John Edward Lloyd]] (1911). ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Ar farwolaeth Hywel yn [[950]] llwyddodd Iago ac Ieuaf i ennill gorsedd Gwynedd, gan yrru meibion Hywel yn ôl i Ddeheubarth. Parhaodd yr ymladd rhwng meibion Idwal a meibion Hywel, gyda Iago ac Ieuaf yn ymgyrchu cyn belled a [[Dyfed]] yn [[952]] a meibion Hywel yn cyrchu hyd at Ddyffryn Conwy yn [[954]] cyn cael eu gorchfygu mewn brwydr ger [[Llanrwst]] a'u gorfodi i ffoi yn ôl i [[Ceredigion|Geredigion]].<ref name="John Edward Lloyd 1911">John Edward Lloyd (1911). ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Bu cweryl rhwng meibion Idwal, a charcharwyd Ieuaf gan Iago yn [[969]]. Er iddo golli brwydr yn [[974]], teyrnasodd Iago ar Wynedd hyd [[979]] pan gymerwyd yntau yn ei dro yn garcharor gan fab Ieuaf, [[Hywel ab Ieuaf]], a ddaeth yn frenin yn ei le. Ymddengys nad oes cofnod o dynged Iago.<ref> name="John Edward Lloyd (1911). ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).<"/ref>
==Cyfeiriadau==
Llinell 25:
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnoedd Powys]]
 
{{Authority control}}