Iago ap Beli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Awdurdod
Llinell 2:
 
==Hanes==
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Iago. Yn wleidyddol yr oedd yn gyfnod pan oedd y teyrnasoedd Seisnig megis [[Mercia]] a [[Brynaich]], yn cynyddu mewn grym, yn enwedig [[Pybba]] brenin Mercia a'i fab [[Penda]]. Mae'n ymddangos fod Iago wedi dod i gytundeb a Pybba, na fydda Pybba yn ymosod ar Wynedd os byddai Gwynedd yn ei gynorthwyo, os byddai angen, yn erbyn [[Northumbria]]. Dywedir i [[Edwin]] o deyrnas [[Deifr]] gael lloches gyda Iago yn [[604]] ar ôl cael ei ddiorseddu gan [[Æthelfrith]]. Arweiniodd hyn at ymosodiad ar Gymru gan Æthelfrith a brwydr [[Caer]] (tua 615) lle lladdwyd [[Selyf ap Cynan]] brenin [[Teyrnas Powys]] a llawer o fynachod o fynachlog [[Bangor Is-y-Coed]].
 
Nid oes cofnod fod byddin Gwynedd wedi cymeryd rhan yn y frwydr yma. Cofnodir marw Iago ap Beli yn 613, a thybir weithiau ei fod ef wedi ei ladd yn y frwydr. Mae'r cofnod am farwolaeth Iago yn y cronicl (Harleian MS 3859) yn defnyddio'r gair ''dormitatio'' (syrthio i gysgu) am ei farwolaeth; nid y gair a ddefnyddid am farwolaeth mewn brwydr. Defnyddir ''dormitatio'' fel rheol am farwolaeth gwr eglwysig, felly gall fod yn awgrym fod Iago wedi ymneilltuo i fynachlog. Mae cofnod ei fod wedi rhoi rhodd i eglwys gadeiriol [[Bangor]]. Dilynwyd ef gan ei fab [[Cadfan ap Iago]].
Llinell 24:
[[Categori:Marwolaethau'r 610au]]
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
 
{{Authority control}}