Ieuaf ab Idwal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 4:
Mab i [[Idwal Foel]] oedd Ieuaf, a'i enw mewn gwirionedd oedd Idwal ab Idwal, ond i osgoi cymysgu rhyngddo ef a'i dad, mae'r brutiau'n cyfeirio ato fel Ieuaf.<ref>[[John Edward Lloyd]] (1911). ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Ar farwolaeth Idwal Foel yn [[942]] buasai Ieuaf wedi disgwyl etifeddu Gwynedd gyda'i frawd [[Iago ab Idwal]]. Fodd bynnag achubodd [[Hywel Dda]], brenin [[Deheubarth]], y cyfle i feddiannu Gwynedd a gyrru'r ddau frawd ar ffo.<ref name="John Edward Lloyd 1911">John Edward Lloyd (1911). ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).</ref>
 
Dim ond ar farwolaeth Hywel yn [[950]] y gallodd Ieuaf ac Iago hawlio gorsedd Gwynedd, gan ennill buddugoliaeth dros feibion Hywel mewn brwydr yn Nant Carno a'u gyrru allan o Wynedd. Parhaeodd yr ymladd rhwng y ddau deulu fodd bynnag, gyda Iago ac Ieuaf yn arwain cyrch i'r de a chyrraedd cyn belled a [[Dyfed]] yn [[952]] a meibion Hywel yn ymosod ar y gogledd cyn belled a [[Dyffryn Conwy]] yn [[954]] cyn colli brwydr yn [[Llanrwst]] a chael eu hymlid yn ôl i [[Ceredigion|Geredigion]].<ref> name="John Edward Lloyd (1911). ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).<"/ref>
 
Bu cweryl rhwng meibion Idwal yn ddiweddarch, a chymerwyd Ieuaf yn garcharor gan Iago yn [[969]]. Bu Iago'n frenin Gwynedd ar ei ben ei hun hyd [[979]] pan gipiodd mab Ieuaf, [[Hywel ab Ieuaf]], yr orsedd oddi wrth ei ewythr. Yn ôl [[J.E. Lloyd]], bu Ieuaf yng ngharchar hyd [[988]], sy'n awgrymu fod ei fab wedi ei gadw'n garcharor.<ref> name="John Edward Lloyd (1911). ''A history of Wales: from the earliest times to the Edwardian conquest'' (Longmans, Green & Co.).<"/ref>
 
==Cyfeiriadau==
Llinell 19:
[[Categori:Teyrnoedd Gwynedd]]
[[Categori:Teyrnas Powys]]
 
{{Authority control}}