István Sándorfi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Man olygu using AWB
Awdurdod
Llinell 7:
===Bywyd Cynnar===
 
Gweithiodd ei dad i gwmni mawr Americanaidd (IBM), ac ohewrydd hyn fe’i carcharwyd am bum mlynedd ym [[1950]] wedi ei gyhuddo o ysbïo, cyn cael ei ryddhau ychydig ddyddiau cyn y [[Chwyldro Hwngari, 1956|Chwyldro Hwngaraidd ym 1956]].<ref name="muv">http://www.muvesz-vilag.hu/kepzomuveszet/visszatekinto/7698</ref><ref name="sand">http://www.fosaw.com/biography.htm</ref> Ym [[1956]], pan oedd yn 8 mwlydd oed, symudodd gyda’i deulu yn gyntaf i [[Awstria]] ac yn hwyrach yn yr [[Almaen]] cyn symud i [[Ffrainc]] ym [[1958]] lle y bu fyw tan ei farwolaeth. Ar ôl dechrau arlunio yn 8 mlwydd oed a pheintio âg olew yn 12, graddiodd gyda diploma o’r ''École nationale supérieure des Beaux-Arts'' ym Mharis ac fe astudiodd hefyd yn yr ''École nationale supérieure des arts décoratifs''.
 
Ganwyd dwy ferch iddo, Ange (ganwyd ym [[1974]]) ac [[Eve]] (ganwyd ym [[1979]]).<ref name="sand" />
Llinell 15:
==Celfyddyd a Gweithiau==
 
Dechreuodd ei yrfa yn ei blentyndod. Yn ei weithiau cynnar ym 1956, ymddangosodd y lluniau o olygfeydd o ffenest ei dŷ yn Kispest mor chwyldroadol ac mor berffaith fel y cuddiwyd hwynt gan ei fam.<ref name="muv" /> Yn ystod y saithdegau dechreuodd ddefnyddio ei hunan fel model gan nad oedd yn hoff o bresenoldeb pobl eraill tra yr oedd yn gweithio. Ymwahanodd ei hunan nid dim ond o’r rheini o’i cwmpas ond o olau naturiol hefyd.
 
Cynhaliwyd ei arddangosfa gyntaf, mewn galeri bychan ym Mharis pan oedd yn 17 mlwydd oed. Yna, ym 1973 cynhaliwyd ei arddangosfa bwysig gyntaf yn Amgueddfa Gelf Modern Paris.<ref name="sand"/> Ers hynny cafwyd arddangosfeydd o’u weithiau mewn orielau yn Rhufain, Copenhagen, Paris, Munich. Basel. Brwsel, Efrog Newydd, San Fransisco a Los Angeles.
 
Yn ei gyfnod cyntaf, yn lle portreadau, arluniodd nifer o wrthrychau mewn safleodd cymhleth. Creodd argraff mawr ar y cyhoedd er engraifft gyda’i llun difywyd o berfeddion.<ref name="muv" />
 
Ar ddiwedd y 1970au ac yn ystod y 1980au cynnar daeth ei gyfnod lelog a glas a’u cyfuniadau oeraidd. Yn ystod y1980au arluniodd rhannau o goes a braich a lluniau bywyd llonydd o ffurfiau benywaidd wedi eu seilio ar ffotograffau.<ref name="muv" /> Ers 1988 arluniodd ffurfiau o fenywod yn unig gan ddefnyddio eu merched eu hunan yn aml i fodeli. Yn ôl ei arferiad, ynghŷd â chyrff benywaidd wedi eu gorchuddio â chynfas gellir dod o hyd i wrthrychau rhyfedd. Yn aml mae ei arluniau bywyd llonydd yn portreadu poteli a ffrwythau (afalau, orennau, eirin gwlanog a gellyg). Roedd cefndir eu luniau fel rheol oedd wal syml gwyn, er y lluniodd y craciau arnynt yn orfanwl hefyd.
Llinell 70:
[[Categori:Arlunwyr Hwngaraidd]]
[[Categori:Pobl o Budapest]]
 
{{Authority control}}