James Cook: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
newidiadau man using AWB
Awdurdod
Llinell 4:
Roedd y daith gyntaf ([[1768]]-[[1771]]) yn yr ''HM Bark Endeavour'' i [[Tahiti|Dahiti]] er mwyn gwylio'r blaned [[Gwener]] yn symud o flaen yr [[haul]]. Yn anffodus, doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offer [[Seryddiaeth|seryddol]] ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio am ''Terra Australis'', arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i fapio arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.
 
Roedd yr ail daith ([[1772]]-[[1775]]) ar ''HMS Resolution'' ac ''HMS Adventure''; roedd yn daith arall i ddod o hyd i ''Terra Australis'' a'r cynnig cyntaf i long o [[Ewrop]] hwylio i Fôr [[Antarctica]]. Ar y daith hon profodd Cook nad oedd ''Terra Australis'' yn bodoli, ond darganfu lawer o ynysoedd.
 
Roedd y drydedd daith ([[1776]]-[[1779]]) ar y llongau ''HMS Resolution'' ac ''HMS Endeavour'', i chwilio am lwybr môr o'r [[Môr Iwerydd]] i'r [[Môr Tawel]] o gwmpas gogledd [[Canada]], sef y 'Tramwyfa gogledd-orllewin'. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewin [[America]], bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, lle cafodd ei ladd gan brodorion yr ynys ar ôl brwydro i gael yn ôl cwch a oedd wedi'i ddwyn. Roedd y Cymro [[David Samwell]] (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar drydedd fordaith y Capten Cook. Roedd yn fab i'r llenor [[Edward Samuel]], gŵr o Benmorfa yn [[Edeirnion]], a fu'n berson [[Llangar]] o 1721 tan 1748. Cadwodd ddyddiadur am y fordaith a chyhoeddodd y llyfr adnabyddus ''A Narrative of the Death of Captain James Cook'' yn 1786.
Llinell 17:
[[Categori:Genedigaethau 1728|Cook, James]]
[[Categori:Marwolaethau 1779|Cook, James]]
 
{{Authority control}}