James Macpherson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Addbot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 25 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q312562 (translate me)
Awdurdod
Llinell 3:
Roedd '''James Macpherson''' ([[27 Hydref]], [[1736]] -[[17 Chwefror]], [[1796]]; Gaeleg: Seumas Mac a' Phearsain) yn fardd [[Yr Alban|Albanaidd]] sy'n fwyaf adnabyddus fel "cyfieithydd" y farddoniaeth yr hawliai ei bod wedi ei chyfansoddi gan [[Ossian]].
 
Ganed ef yn [[Ruthven]] ym mhlwyf [[Kingussie]], [[Badenoch]], [[Swydd Inverness]], yn [[Ucheldiroedd yr Alban]]. Yn [[1753]], gyrrwyd ef i astudio i [[Aberdeen]]. Aeth i [[Caeredin|Gaeredin]] am flwyddyn, ond nid oes sicrwydd a aeth i'r brifysgol yno. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth yn y cyfnod yma, a chyhoeddwyd peth yn ddiweddarach fel ''The Highlander'' ([[1758]]).
 
Wedi gorffen ei addysg dychwelodd i Ruthven a bu'n dysgu yn yr ysgol yno. Dechreuodd gasglu barddoniaeth [[Gaeleg yr Alban|Gaeleg]] ac yn [[1760]] cyhoeddodd ''Fragments of Ancient Poetry collected in the Highlands of Scotland''.
 
Cododd Dr Hugh Blair dysteb i'w alluogi i barhau a'r gwaith o gasglu barddoniaeth, a bu'n teithio o gwmpad gorllewin Swydd Inverness a'r ynysoedd. Yn [[1761]] cyhoeddodd ei fod wedi darganfod barddoniaeth epig am ''[[Fingal]]'' (yn cyfateb i [[Fionn mac Cumhaill]] ym mytholeg [[Iwerddon]]) wedi ei ysgrifennu gan [[Ossian]], Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno cyhoeddodd ''Fingal, an Ancient Epic Poem in Six Books, together with Several Other Poems composed by Ossian, the Son of Fingal, translated from the Gaelic Language''.
 
Daeth y farddoniaeth yma yn eithriadol o boblogaidd trwy ran helaeth o Ewrop, ac roedd yn un o'r elfennau pwysicaf yn y diddordeb cynyddiol yn [[y Celtiaid]]. Roedd rhai, yn enwedig yn [[Lloegr]], yn haeru mai gwaith MacPherson ei hun ydoedd. Y farn gyffredinol yn awr yw fod MacPherson wedi darganfod rhywfaint o farddoniaeth draddodiadol ar y pwnc, ond mai ef oedd wedi eu gwneud yn un gerdd a'u haddasu i apelio i'w oes ei hun.
Llinell 17:
[[Categori:Genedigaethau 1736|Macpherson, James]]
[[Categori:Marwolaethau 1796|Macpherson, James]]
 
{{Authority control}}