John Barnard Jenkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
Awdurdod
Llinell 1:
Arweinydd [[Mudiad Amddiffyn Cymru]] yn ail hanner y 1960au oedd '''John Barnard Jenkins''' (ganed [[1933]]).
 
Ganed ef yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], i rieni di-Gymraeg. Ymunodd a'r fyddin yn [[1952]], a daeth yn swyddog yn y Corfflu Deintyddol Brenhinol.
 
Ffurfiwyd Mudiad Amddiffyn Cymru yn wreiddiol gan [[Owain Williams]], [[John Albert Jones]] ac [[Emyr Llywelyn Jones]] fel ymateb i'r cynllun o adeiladu argae ar draws [[Afon Tryweryn]] i greu cronfa ddŵr [[Llyn Celyn]] i ddarparu dŵr i ddinas [[Lerpwl]]. Roedd hyn yn golygu boddi pentref [[Capel Celyn]]. Ar [[10 Chwefror]], [[1963]], ffrwydrwyd bom ar y safle waith gan dri gŵr; yn ddiweddarach cafwyd Emyr Llywelyn Jones yn euog o hyn a'i ddedfrydu i flwyddyn o garchar. Y diwrnod y dedfrydwyd ef, ffrwydrodd bom ger peilon trydan ger [[Gellilydan]]; carcharwyd Owain Williams a John Albert Jones am hyn yn ddiweddarach.
 
Wedi carcharu'r tri sefydlydd, daeth John Jenkins yn arweinydd y mudiad. Credir mai MAC oedd yn gyfrifol am ffrwydro bom ar safle argae [[Llyn Clywedog]] yn [[1966]]. Yn [[1967]] ffrwydrwyd bom ger pibell oedd yn cario dŵr o [[Llyn Llanwddyn|Lyn Llanwddyn]], ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno ffrwydrodd bom y tu allan i'r [[Y Deml Heddwch|Deml Heddwch]] yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]], gerllaw man oedd i'w defnyddio ar gyfer cynhadledd i drefnu [[Arwisgiad Tywysog Cymru|Arwisgiad]] [[1969]].
 
Yn [[1968]], dinistriwyd swyddfa dreth incwm yng Nghaerdydd gan fom, yna adeilad [[y Swyddfa Gymreig]] yn yr un ddinas a phibell ddŵr yn [[Helsby]]. Yn Ebrill [[1969]], ffrwydrwyd bom mewn swyddfa dreth incwm yn ninas [[Caer]]. Ar [[30 Mehefin]] 1969, y noson cyn yr Arwisgiad, lladdwyd dau aelod o MAC, Alwyn Jones a George Taylor, yn [[Abergele]] pan ffrwydrodd bom yn gynamserol.
Llinell 22:
[[Categori:Gweriniaethwyr Cymreig]]
[[Categori:Pobl o Gaerdydd]]
 
{{Authority control}}