John Jones (seryddwr): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:Q6242024
Awdurdod
Llinell 1:
[[Delwedd:Memorial to an Astronomer, John Jones Y Sêr. - geograph.org.uk - 144089.jpg|250px|bawd|Llechen goffa John Jones]]
Seryddwr ac ieithydd [[Cymry|Cymreig]] oedd '''John Jones''' ([[1818]] - [[1898]]), a adnabyddid hefyd fel '''''John Jones y Sêr''''' neu '''''Ioan Bryngwyn Bach''''' (ei [[enw barddol]]). Roedd yn ŵr hunanaddysgedig a enillodd gryn sylw yn ei oes fel seryddwr amatur. Roedd yn frodor o blwyf [[Llanidan]], [[Ynys Môn]].<ref name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein">[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html Y Bywgraffiadur Ar-Lein]</ref>
 
==Bywgraffiad==
Gweithiwr oedd John Jones ar hyd ei oes o ran ei alwedigaeth. Cafodd ei eni yn y Bryngwyn Bach ger [[Dwyran]], Sir Fôn, yn 1818. Ychydig o addysg elfennol yn unig a gafodd yn blentyn. Cafodd waith fel gwas fferm ac yn 1848 aeth i weithio fel llwythwr llechi ym [[Porth Penrhyn|Mhorth Penrhyn]] ger [[Bangor]].<ref name="ReferenceA">Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', ''Y Geninen'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.</ref>
 
Darllenai lyfrau o lyfrgell gweinidog lleol a dysgodd am [[seryddiaeth]] - ei hoff bwnc - ac ieithoedd y [[Beibl]] gan ddod i fedru darllen [[Groeg]] a [[Hebraeg]]. Gwnaeth ddau sbienddrych (telesgop) iddo ei hun. Roedd hefyd yn barddoni.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein]<"/ref>
 
Daeth i amlygrwydd ar draws gwledydd Prydain pan gafodd ei "ddarganfod" gan yr awdur [[Samuel Smiles]], a fu'n enwog yn ail hanner y 19eg ganrif am ei lyfrau "dod ymlaen" poblogaidd fel ''Self-Help'', a ymwelodd ag ef ym Mangor ac a ysgrifenodd amdano yn ei gyfrol ''Men of Invention and Industry'' (1884).<ref>Eleazar Roberts. 'John Jones y Seryddwr', ''Y Geninen'' (Gŵyl Dewi), 1901 , 42-6.<name="ReferenceA"/ref>
 
Bu farw ym Mangor yn 1898.<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c-JONE-JHN-1818.html name="Y Bywgraffiadur Ar-Lein]<"/ref>
 
==Llyfryddiaeth==
Llinell 26:
[[Categori:Seryddwyr Cymreig]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymreig]]
 
{{Authority control}}