John Jones, Gellilyfdy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
tacluso, categoriau
Awdurdod
Llinell 1:
Copïydd [[Llawysgrifau Cymreig|llawysgrifau]] a hynafiaethydd Cymreig oedd '''John Jones, Gellilyfdy''' (tua 1585 — 1657/58).
 
==Bywgraffiad==
Roedd yn enedigol o blas Gellilyfdy, plwyf [[Ysgeifiog]] yn [[Sir y Fflint]]. Canodd y beirdd [[Wiliam Llŷn]] a [[Wiliam Cynwal]] farwnadau ar ôl ei daid, Siôn ap Wiliam, a feddai ar gasgliad o lawysgrifau yr oedd llawer ohonynt yn ymwneud ag ardal [[Dyffryn Clwyd]]. Etifeddwyd y casgliad gan ei fab, William Jones. Daeth ei fab yntau, John Jones, yn gyfarwydd â'r llawysgrifau hyn yn gynnar yn ei oes.
 
Roedd John Jones mewn anawsterau ariannol parhaus, ac fe'i carcharwyd am ddyled nifer o weithiau, o leiaf deirgwaith yng [[Carchar y Fflyd|Ngharchar y Fflyd]] yn [[Llundain]].
 
Yn ystod ei dymhorau yn y carchar y gwnaeth lawer o'i waith copïo llawysgrifau, ond gweithiai hefyd yng [[Caerdydd|Nghaerdydd]] (1612) ac ym mhlasdai uchelwyr mewn sawl rhan o Gymru. Mae dros gant o'i lawysgrifau ar gadw yn [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]], ac eraill yn [[Llyfrgell Dinas Caerdydd]] a'r [[Amgueddfa Brydeinig]]. Nodweddir y llawysgrifau hyn gan ei arddull unigryw a chain, ac addurnir y testun yn aml â lluniau bychain ac addurniadau eraill. Roedd ganddo gysylltiad agos â'r hynafiaethydd [[Robert Vaughan]], ysgwïer [[Hengwrt]], ac o'r herwydd cadwyd llawer o'i lawysgrifau yng nghasgliad Hengwrt (Llawysgrifau [[Peniarth]] yn ddiweddarach).
 
Yn llaw John Jones ceir yr unig destun o'r chwedl ''[[Ystoria Ysgan ab Asgo]]'' sydd ar glawr, a ysgrifenwyd ganddo ar 23 Rhagfyr 1608.<ref>T. H. Parry-Williams (gol.), ''Rhyddiaith Gymraeg: Detholiad o Lawysgrifau 1488-1609'' (Caerdydd, 1954), tt. 144-6.</ref>
Llinell 21:
[[Categori:Pobl o Sir y Fflint]]
[[Categori:Ysgolheigion Cymreig]]
 
{{Authority control}}